Ymchwilwyr Doethurol
Ein Projectau Doethurol
Mae ein hymchwilwyr doethurol yn rhan anhepgor o hunaniaeth ac amcanion ein canolfan ymchwil. Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru wedi llwyddo i ddenu nifer o ymchwilwyr i Brifysgol Bangor i ymgymryd â phrojectau sydd, yn unigol ac ar y cyd, yn cyfoethogi ein dealltwriaeth a’n gwybodaeth o hanesion, diwylliannau a thirweddau Cymru.
Yn ogystal â’u cyfraniadau deallusol, caiff ein hymchwilwyr doethurol eu hannog hefyd i gyfrannu at ein hymdrechion i ymgysylltu â’r cyhoedd a’n rhanddeiliaid, er mwyn i’w canfyddiadau gael eu rhannu’n eang â chynulleidfaoedd a chymunedau sydd â diddordeb.
Cefnogir llawer o’n myfyrwyr PhD gan gyllid preifat, megis ein Hefrydiaeth Ddoethurol Rhug, neu ddiolch i ysgoloriaethau a bwrsariaethau gan sefydliadau fel The Drapers’ Company, Cronfa Waddol Y Werin, Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru a Sefydliad James Pantyfedwen. Cydnabyddir y gefnogaeth hon yn ddiolchgar.
Cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais i astudio am ddoethuriaeth gyda Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru.
Dyma ein projectau:
- Sadie Jarrett
‘Of Great Kindred and Alliance’: Statws a hunaniaeth Salesburys Rhug a Bachymbyd, c.1475-c.1660
(Dan oruchwyliaeth yr Athro Huw Pryce a Dr Shaun Evans)
- Kayla Jones
Dehongli’r Penrhyn: Sut gellir defnyddio podlediadau i gyfleu naratif aml-haenog ystad Gymreig?
(Dan oruchwyliaeth yr Athro Andrew Edwards, Dr Shaun Evans a Dr Steffan Thomas)
- Mary Oldham
Gregynog 1750–1900: Cysylltiadau cymdeithasol a diwylliannol, parhad a newid ar ystad yn sir Drefaldwyn
(Dan oruchwyliaeth Dr Lowri Ann Rees a Dr Shaun Evans)
- Matthew Rowland
Dehongli Plastai yng Nghymru
(Dan oruchwyliaeth Dr Shaun Evans a Dr Karen Pollock)
- Meinir Moncrieffe
Cyflwyniad a Chanfyddiad: Hunan-ddelweddu teulu’r Wynn o Wydir
(Dan oruchwyliaeth Dr Shaun Evans a Dr Euryn Roberts)
- Bethan Scorey
Castell ac Ystad Sain Ffagan: ei Hanes Pensaernïol a Thirlun
(Dan oruchwyliaeth Dr Shaun Evans a Dr Lowri Ann Rees)
- Alexandra Gillgrass
(Dan oruchwyliaeth Dr Lowri Ann Rees a Dr Shaun Evans)
Mae rhagor o wybodaeth am yr ymchwil hon i’w gweld yn adran projectau ein gwefan.