Newyddion: Rhagfyr 2013

Sefydliad Ymchwil Stadau Cymru, Prifysgol Bangor

Mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu sefydliad ymchwil ym Mhrifysgol Bangor fydd yn canolbwyntio ar amrywiaeth o agweddau yn gysylltiedig â stadau yng Nghymru. Bydd Sefydliad Ymchwil Stadau Cymru yn amcanu i gefnogi ymchwil ar stadau tir yng Nghymru, i gydweithio ar brojectau rhyng-ddisgyblaethol, i drefnu cynadleddau a gweithdai yn ogystal â gweithio gyda’r sector treftadaeth, ysgolion a grwpiau hanes a chymdeithasau ar draws Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2013