Newyddion: Gorffennaf 2018

Llawysgrifau Mostyn: Arddangosfa'r Canmlwyddiant

Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2018

Prifysgol Bangor yn cael grant i ddatgelu cynnwys llythyrau Mostyn o'r 17 ganrif

Bydd tair mil o lythyrau prin sydd wedi goroesi o'r ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif ar gael i ysgolheigion rhyngwladol yn dilyn grant ymchwil newydd gan Gronfa Marc Fitch. Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru , Prifysgol Bangor wedi cael grant o £40,000 i ddigido ac ymchwilio i gasgliad eithriadol o lythyrau a gedwir yn llyfrgell Plas Mostyn yn Sir y Fflint.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2018