Archifau Ystadau: Mapio Amlhaenog Diweddariad gan Jon Dollery

Archifau Ystadau: Mapio Amlhaenog  Diweddariad gan Jon Dollery

Helo! Fy enw i yw Jon Dollery.  Fi yw’r Swyddog Mapio yng Nghomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC).  Rwyf wedi bod yn gweithio i’r comisiwn ers 8 mlynedd ar ôl cwblhau MA mewn Archeoleg Tirwedd ym Mhrifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant. Fy mhrif waith o ddydd i ddydd yw cynnal a diweddaru meddalwedd system gwybodaeth ddaearyddol fewnol (GIS) y comisiwn a sawl set ddata ofodol sy'n ymwneud â'r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru. Ond rwyf newydd ddechrau ar broject cyffrous newydd a hoffwn roi diweddariad i chi amdano.

Ynghyd â’m cydweithiwr yng Nghomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Scott Lloyd, rwy'n gweithio ar broject a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) o'r enw ‘Deep Mapping’ Estate Archives: A New Digital Methodology for Analysing Estate Landscapes c.1500-1930. Gallai'r gwaith hwn arwain at newid sylweddol yn y ffordd rydym yn edrych ar ffynonellau mapio hanesyddol. Efallai y bydd hefyd yn ein cynorthwyo i ddeall yn well sut mae tirweddau'r gorffennol wedi newid ac wedi cael eu newid i’w ffurf presennol Mae'r AHRC wedi darparu £249,538 mewn cyllid i'r project hwn a arweinir gan Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru (ISWE) ym Mhrifysgol Bangor, mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru. Mae'r project yn canolbwyntio ar chwe phlwyf hanesyddol ar hyd ffin Sir y Fflint a Sir Ddinbych: Llanferres, Llanarmon-yn-Iâl, Llandegla, yr Wyddgrug, Nercwys a Threuddyn. Dewiswyd yr ardal hon yn benodol gan ei bod yn rhoi cydbwysedd topograffig da (yn cynnwys tir comin ar ucheldir, amaethyddiaeth ar  iseldir, a lleoliad trefol yr Wyddgrug) yn ogystal â nifer sylweddol o ystadau. Dechreuodd y project ym mis Medi 2020 er gwaethaf y pandemig, a dros y misoedd diwethaf rydym wedi bod yn gweithio’n brysur arno.

Cyfraniad y comisiwn at y project yw dod â sawl ffynhonnell fapio hanesyddol ynghyd mewn amgylchedd GIS. Y cam cyntaf yn y broses yw nodi'r mapiau hanesyddol sydd eu hangen arnom. Rydym wedi nodi pedwar math o fap hanesyddol fel rhai hanfodol:

  • Argraffiad cyntaf mapiau cyfres sirol yr Arolwg Ordnans (OS), 25 modfedd i’r filltir (1:2,500). Y mapiau hyn oedd yr arolwg llwyr cyntaf o Brydain; cynhaliwyd gan yr Arolwg Ordnans rhwng 1850 a 1890. Mae’r mapiau hyn yn cynnwys llawer iawn o fanylion topograffig a chânt eu defnyddio fel map sylfaen i’r project.
  • Mapiau Degwm (1830au-1860au). Cynhyrchwyd y mapiau hyn o dan Ddeddf Cyfnewid y Degwm 1836, a arweiniodd at yr holl gaeau ym mhob plwyf yng Nghymru a Lloegr yn cael eu harolygu i allu pennu eu gwerth er mwyn cyfrifo swm y degwm i'w dalu gan y tirfeddiannwr i’r eglwys. Mae'r mapiau hyn hefyd yn adnodd gwerthfawr iawn gan eu bod yn manylu ar dirwedd ardaloedd gwledig yng nghanol y 19eg ganrif, a hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ddefnydd tir, perchnogaeth tir, erwau, gwerth ac ati. Bu iddynt gynhyrchu cipolwg o'r dirwedd felly, yn cynnwys gwybodaeth dopograffig a gwybodaeth am berchnogaeth.
  • Mae mapiau cau tiroedd yn ffynhonnell hynod ddiddorol. Er bod mapiau cau tiroedd ar gael o 1595 ymlaen, cynhyrchwyd llawer ohonynt ar ddiwedd y 18fed a dechrau’r 19eg ganrif.
  • Mapiau Ystadau.

Mae Scott Lloyd wedi treulio peth amser yn ceisio dod o hyd i’r mapiau hyn. Nid yw hon yn dasg hawdd gan nad yw llawer o'r mapiau hyn yn cael eu cadw mewn un lleoliad canolog ond yn hytrach mewn sawl archif fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac archifdai lleol. Yn ffodus, yn achos rhai o'r ffynonellau, mae projectau yn y gorffennol fel project Cynefin y Llyfrgell Genedlaethol wedi digideiddio pob un o fapiau'r degwm ac wedi sicrhau eu bod ar gael ar-lein. Yr her fwyaf oedd dod o hyd i fapiau cyfres sirol yr Arolwg Ordnans. Er bod ardal ein project yn ardal gymharol fach, ceir o leiaf 50 map o'r ardal hon, ac mae pob un ohonynt wedi eu gwasgaru rhwng amrywiol archifau yng nghanolbarth a gogledd Cymru. Fel arfer byddai hyn yn her ar ei ben ei hun, ond o ychwanegu cyfyngiadau'r pandemig yn 2020 - bu'n wyrth bod Scott wedi llwyddo i drefnu cludo, digideiddio a dychwelyd y ffynonellau hyn o fewn cyfnod byr. Cludwyd y mapiau o'r archifdai lleol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, lle’r oedd tîm o arbenigwyr digideiddio’r llyfrgell yn gallu gwneud sganiau cydraniad uchel o'r mapiau.

Ar ôl cael y sganiau digidol o'r mapiau, rydym wedi gallu eu mewnforio i feddalwedd GIS. Dyma lle mae fy arbenigedd yn gallu cyfrannu at y project. Mae hyn yn digwydd trwy broses o'r enw geogyfeirnodi. Gwneir hyn trwy gymryd copi digidol o'r map hanesyddol ac wrth ddefnyddio pwyntiau rheolydd, rydym yn gallu ychwanegu pwyntiau at y map. Fel rheol, byddem yn dewis cornel ffin cae neu adeilad. Os yw'r pwynt a ddewiswyd gennym yn dal i fodoli heddiw ar y map modern, gallwn wedyn osod y pwynt o'r map hanesyddol ar y pwynt ar y map modern. Yna byddwn yn defnyddio’r pwyntiau rheolydd i osod y map hanesyddol yn ofodol ar y map modern. Ers cael sganiau digidol y mapiau o gyfres sirol yr Arolwg Ordnans gan y Llyfrgell Genedlaethol, rwyf wedi gallu geogyfeirnodi pob un o'r 50 dalen. Nid ydym eto wedi geogyfeirnodi unrhyw un o'r ffynonellau mapio hanesyddol eraill hyd yn hyn gan ein bod yn canolbwyntio ar gam cyntaf y project, ac mae hwnnw’n ymwneud yn bennaf â’r mapiau o gyfres sirol yr Arolwg Ordnans.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Georeferencing

Er bod cael delwedd ddigidol wedi ei geogyfeirnodi o'n mapiau hanesyddol yn golygu eu bod yn hygyrch yn ddigidol, nod y project yw mynd yn llawer pellach trwy wneud y mapiau'n fwy hylaw trwy ymgymryd â phroses o'r enw 'polygoneiddio'. Mae hyn i bob pwrpas yn golygu ein bod yn creu set ddata fector o fewn y system gwybodaeth ddaearyddol sy'n ail-greu'r holl nodweddion ar y map.  Felly, rhoddir bolygon unigol i bob nodwedd ar y map: cae, llain, adeilad, llwybr, ffordd ac ati. Mantais gwneud hyn yw ein bod yn gallwn gysylltu y tu ôl i’r polygon â chronfa ddata, neu'r hyn rydym yn ei alw yn ‘dabl priodoleddau’ ym maes systemau gwybodaeth ddaearyddol. Gallwn ychwanegu cymaint o wybodaeth ag y dymunwn at y tabl priodoleddau trwy greu colofnau data. Mae pob colofn yn cofnodi math penodol o ddata, fel enw maes, defnydd tir, perchnogaeth, erwau ac ati. Mae hyn yn golygu y gellir ychwanegu'r holl wybodaeth ategol sydd wedi ei chynnwys ar y mapiau neu gyda ffynonellau cysylltiedig fel llyfrau cyfeirio yn uniongyrchol at y set ddata. Mae hyn yn golygu y bydd defnyddiwr yn gallu clicio ar bolygon cae, er enghraifft, ac yn cael yr holl briodoleddau sy'n gysylltiedig â'r cae penodol hwnnw.


Attributes

Ers mis Medi, rwyf wedi bod yn canolbwyntio ar un dreflan benodol yn ardal y project, sef Nercwys. Ar ôl geogyfeirnodi chwe dalen cyfres sirol yr Arolwg Ordnans sy'n cwmpasu'r dreflan, y cam nesaf oedd ymgymryd â'r broses bolygoneiddio. I wneud hyn, rwy’n cymryd copi o set ddata fector fodern i'w defnyddio fel set ddata sylfaenol: Haen dopograffig MasterMap yr Arolwg Ordnans. Mae MasterMap yr Arolwg Ordnans yn cofnodi pob nodwedd sefydlog yn y Deyrnas Unedig ac mae'n fap digidol parhaus sy'n cael ei ddiweddaru'n rheolaidd gan yr Arolwg Ordnans. Byddaf yn dileu'r holl briodoleddau o'r set ddata fodern hon ac yn eu disodli gyda'r strwythur templed ar gyfer y priodoleddau sy’n rhaid eu cofnodi mewn perthynas â chyfres sir yr Arolwg Ordnans. Yna, byddaf yn troshaenu'r set ddata fector fodern hon gyda map cyfres sirol yr Arolwg Ordnans digidol wedi ei geogyfeirnodi. Yna byddaf yn golygu pob polygon â llaw i adlewyrchu ffiniau pob nodwedd o fap cyfres sir yr Arolwg Ordnans. Ym mwyafrif yr achosion ni fu unrhyw newid yn nodweddion y dirwedd. Ond mewn rhai achosion lle bu newid, gellir cywiro hyn trwy naill ai rannu'r polygonau modern neu uno dau neu dri pholygon yn un polygon.


 

 

 

 

 

 

 

 

 

Polygonization – cyn ac ar ol

Ar ôl i ni gwblhau creu'r polygonau i adlewyrchu cyfres sir yr Arolwg Ordnans, y cam nesaf yw ychwanegu'r wybodaeth am briodoleddau. Scott fydd yn gwneud hyn, bydd yn mynd trwy bob polygon ac yn nodi'r wybodaeth a gofnodir ar y map a ffynonellau allanol eraill fel y Llyfrau Cyfeirio. Gall hon fod yn broses araf, ond unwaith y bydd y wybodaeth wedi ei chofnodi, gallwn edrych yn fwy manwl ar y wybodaeth ofodol a chroesgyfeirio'r data yn ogystal â'i wneud yn fwy gweledol. Mae'r cam hwn hefyd yn gweithredu fel pwynt gwirio naturiol lle gellir gwirio'r polygonau a grëwyd gennyf i sicrhau nad oes unrhyw gamgymeriadau wedi digwydd.

Y peth cyffrous olaf i mi ei gwblhau ers mis Medi yw geogyfeirnodi a pholygoneiddio cynllun tref yr Wyddgrug. Tra bu’r Arolwg Ordnans yn arolygu mapiau cyfres y sir yn y 19eg ganrif, gwnaethant gynhyrchu mapiau manwl pellach ar raddfa o 10.56 troedfedd i'r filltir (1:500) ar gyfer prif drefi Cymru a Lloegr. Arolygwyd cynllun tref yr Wyddgrug ym 1871 ac mae'n cynnwys chwe dalen a llawer iawn o fanylion. Unwaith eto, yn dilyn y broses a ddisgrifiais ar gyfer mapiau cyfres sirol yr Arolwg Ordnans, mewnforiais y mapiau, eu geogyfeirnodi ac yna eu polygoneiddio gan ddefnyddio MasterMap modern yr Arolwg Ordnans fel set ddata sylfaenol. Yna cofnododd Scott y wybodaeth am briodoleddau pob polygon a gynhyrchwyd ar gyfer cynllun y dref. O ganlyniad, rydym wedi creu set ddata fector ddigidol sydd â'r holl wybodaeth o'r map gwreiddiol, ond sydd mewn fformat y gallwn ei drin i'w wneud yn fwy hylaw i ddefnyddwyr. Un enghraifft o'r hyn yr ydym wedi gallu ei wneud gyda'r set ddata hon yw cymryd y symbolau o ddalen fap lliw a’u cymhwyso i’r set ddata yn ei chyfanrwydd. Mae hyn yn golygu ein bod yn gallu lliwio dalennau mapiau nad ydynt erioed wedi cael eu lliwio neu nad oes copi lliw ohonynt yn bodoli heddiw. Pe baem yn digideiddio a geogyfeirnodi’r delweddau yn unig, byddai diffyg cyfatebiaeth, gan fod rhai ardaloedd mewn lliw a rhai eraill mewn du a gwyn. Mantais y fethodoleg hon yw ei bod yn caniatáu i ni safoni’r holl symbolau yn y set ddata yn ei chyfanrwydd.


 

 

 

 

 

 

 

 

Town Plan – Du/Gwyn a Lliw

Er ein bod yng nghamau cynnar y project, rydym wedi llwyddo i lunio a safoni ein methodoleg er mwyn dod â'r mapiau hanesyddol hyn yn fyw. Y cam nesaf yw parhau i weithio ein ffordd trwy daflenni cyfres sirol yr Arolwg Ordnans ar gyfer ardal y project. Ar ôl i ni gyflawni hyn, y cam nesaf wedyn fydd ymgorffori'r ffynonellau mapio hŷn eraill fel mapiau’r degwm, mapiau cau tir a mapiau ystadau. Yna byddwn yn edrych ar gofnodion eraill i weld a allwn ddefnyddio enw lle a gwybodaeth geo-ofodol arall i greu haenau 'map' o'r ffynonellau testunol hyn.

Ethos y project hwn yw gwneud unwaith ac ailddefnyddio lawer gwaith. Rwy’n grediniol y bydd yr holl wybodaeth rydym yn ei chofnodi o'r mapiau hanesyddol hyn yn cael rhywfaint o effaith ar y byd modern. Mae'r wybodaeth hon yn ddefnyddiol ar gyfer sector yr amgylchedd hanesyddol ond gallai fod yn ddefnyddiol i sectorau eraill hefyd, megis llywodraeth leol a chenedlaethol, y byd academaidd a chyfleustodau heb sôn am y sector preifat. Heb anghofio am y cyhoedd, wrth gwrs. Bydd y fethodoleg hon yn golygu bod y mapiau hyn ar gael i’w defnyddio gan y cyhoedd. Bydd yn gymorth i ymchwil pellach, yn ymchwil academaidd ac ymchwil personol. Er ein bod yn edrych ar ardal fach iawn, mae’n bosib y gallai project tebyg arall wneud hyn ar raddfa fwy yn y dyfodol, efallai ar gyfer sir gyfan neu hyd yn oed Cymru gyfan. Er na allwn ddirnad holl botensial y ffynonellau hyn, mae digon o bolygoneiddio a geogyfeirnodi ar ôl i'w wneud yn y cyfamser. Felly dewch yn ôl am ragor o wybodaeth. 

 

Dyddiad cyhoeddi: 13 Ebrill 2021