Carto Cymru 2017: ‘Measuring the Meadows’

Dydd Gwener, 12 Mai 2017

Mae'n bleser gan Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru greu partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru i gyflwyno  Symposiwm Mapiau Cymru 2017.

Bydd y symposiwm eleni yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, ac yn dod â charfan ryngwladol o arbenigwyr ynghyd i werthuso datblygiad mapiau ystadau a'i werth wrth bortreadu tirweddau hanesyddol Cymru a thu hwnt.

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad yn costio £20 (sy'n cynnwys cinio bwffe).

Er mwyn cadw lle, ffoniwch Lyfrgell Genedlaethol Cymru ar 01970 632548;

Neu archebwch ar-lein drwy fynd i https://www.ticketsource.co.uk/event/EILMJF

Dyddiad cyhoeddi: 6 Chwefror 2017