CYFARFOD CYNTAF YNG NGOGLEDD AMERICA

Rydym yn edrych ymlaen at ymweld â'r Unol Daleithiau fis Hydref i ddigwyddiad arbennig ym Mhrifysgol Harvard.  

Bydd cyfeillion, cydweithwyr academaidd a chyn-fyfyrwyr yn ymuno â ni mewn derbyniad yn yr Harvard Faculty Club, lle bydd yr Is-ganghellor, Yr Athro John G. Hughes, yn siarad am ddatblygiadau diweddar ym Mangor, yn cynnwys sefydlu Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru.   Bydd hyn yn gyfle gwych i ni hyrwyddo dyheadau SYYC i gynulleidfaoedd newydd ac ehangach ac mae'n gwbl gydnaws â'n dyhead i ysgogi diddordeb rhyngwladol yng Nghymru a'i hanes.  

Bydd y derbyniad yn cyd-daro â 36ed Colocwiwm Celtaidd Blynyddol Harvard, lle ceir papurau gan gydweithwyr o SYYC.   Rydym yn hynod falch y bydd llawer o aelodau ein Bwrdd Ymgynghorol yn ymuno â ni ar yr ymweliad i gymryd rhan yn y gweithgareddau hyrwyddo.  

Ceir ymdriniaeth lawn o'r digwyddiad yn rhifyn nesaf y cylchlythyr.   

Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2016