Cyfleoedd hepgor ffioedd PhD

Mae Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau wedi cyhoeddi cynllun hepgor ffioedd i fyfyrwyr doethurol ar gyfer 2017/18.  Bydd wyth gwobr i'w rhoi i ymgeiswyr llwyddiannus, i dalu am gost llawn ffioedd dysgu PhD am gyfanswm o dair blynedd i bob myfyriwr.

Mae ymchwil yng Ngholeg y Celfyddydau a'r Dyniaethau yn cynnwys ystod eang o ddisgyblaethau, ac yn cyfuno arbenigedd ar draws meysydd mewn sawl achos. Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â photensial ymchwil yn y meysydd lle mae diddordebau ymchwil wyth o’n hysgolion academaidd a saith o’n canolfannau ymchwil.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ydi dydd Gwener, 23 Mehefin 2017.

Cewch ragor o wybodaeth am hepgor ffioedd a'r broses gwneud cais yma, neu gellwch gysylltu â'r Gweinyddwr Derbyniadau Ôl-radd (pgadmissionscah@bangor.ac.uk).

Os hoffech wybod mwy am syniadau project ymchwil cyfredol yn gysylltiedig ag astudio Ystadau Cymru weler yma.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Mehefin 2017