CYFRES SEMINARAU SYYC 2016/17

Mae pawb sy'n gysylltiedig â Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn edrych ymlaen at y gyfres nesaf o Seminarau Ymchwil sy'n dechrau fis Hydref.  Mae seminarau blaenorol wedi rhoi sylw i faterion megis rheoli ystadau yn y cyfnod hwnnw, profiad tenantiaid ac arglwyddiaethu yng Nghymru'r unfed ganrif ar bymtheg.

Wrth agor sesiwn 2016/17 edrychwn ymlaen at groesawu Bettina Harden MA, cyn Gadeirydd Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru ac Aelod Gweithredol o'r Grŵp Sioraidd.  Roedd llunio'r gerddi o amgylch eu plastai yn ffordd bwysig i fonedd Cymru hyrwyddo eu statws, eu cyfoeth a'u hunaniaeth.  Bydd Bettina yn siarad ynglŷn â datblygu chwaeth ac arddull mewn perthynas â gerddi ledled Cymru, gan roi cyflwyniad â darluniadau yn seiliedig ar lyfr sydd ganddi ar y gweill.  Bydd ‘All these enchanting scenes’ yn werth ei weld. 

Fis Tachwedd bydd Dr Elizabeth Green yn ymuno â ni i siarad am ddull gweithredu'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol o gyflwyno a hyrwyddo etifeddiaeth plastai ac ystadau Cymru.  Liz sydd yn gyfrifol am guradiaeth a chadwraeth eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru a bydd yn dangos beth y gall ymchwil cydweithredol ei wneud i wella profiad yr ymwelydd mewn safleoedd megis Castell y Waun, Erddig, Plas Newydd, Castell Powis, a Chastell Penrhyn wrth gwrs.  Mae ein partneriaid yn The Thames Valley Country House Partnership (sydd wedi eu lleoli ym Mhrifysgol Rhydychen) wedi dechrau menter hirdymor gyffrous gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ddiweddar, o'r enw 'Trusted Source' ac rydym yn awyddus iawn i ddyblygu rhywbeth o’r fath yng Nghymru.

Yn olaf, yn y Flwyddyn Newydd bydd Dr Lloyd Bowen o Brifysgol Caerdydd yn teithio i Fangor i siarad am ei ymchwil - 'religion, status and honour in Jacobean Flintshire’.  Yn gynharach yn ei yrfa gwnaeth Lloyd ymchwil rhagorol i gyfrifon plasty Syr Thomas Aubery, Llantrithyd, Sir Forgannwg.  Mae ei brosiect diweddaraf yn rhoi sylw i ogledd orllewin Cymru ac yn enwedig i'r gystadleuaeth fawr a ddatblygodd rhwng Morganiaid, Gwylgre ac Egertoniaid, Egerton ac Oulton yn Swydd Caer yn dilyn marwolaeth Piers Mostyn, Talacre yn 1606.  Dyma astudiaeth achos fywiog â'i llond o groesi cleddyfau, dwyn hebogiaid ac enllibio, ac un sy'n rhoi golwg fyw inni ar feddylfryd a gwerthoedd bonedd yr ail ganrif ar bymtheg.

Mae'r seminarau hyn yn agored i unrhyw un ddod iddynt; dewch draw ac fe gewch groeso cynnes! 

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y seminarau, gan gynnwys dyddiadau, amseroedd a lleoliadau ar ein tudalen 'digwyddiadau'.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Medi 2016