ISWE at the Eisteddfod

Roeddem yn falch iawn o gymryd rhan yn Eisteddfod Genedlaethol eleni ym Meifod, Powys ar ddechrau mis Awst. Cyflwynodd yr Athro John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor ddarlith ISWE arbennig a draddodwyd gan yr hanesydd nodedig yr Athro Prys Morgan.

Yn ei gyflwyniad bywiog, soniodd yr Athro Morgan am ddylanwad hanesyddol y teulu Lloyd o Ddolobran, sef plasty o fewn tafliad carreg i faes yr Eisteddfod. Cyfunodd yr Athro Morgan hanes stad Dolobran gyda naratif ehangach am effaith y boneddigion a'u plastai yng nghymunedau Cymru o'r oesoedd canol hyd heddiw. Wrth wneud hynny, dynnodd sylw at nifer o'r themâu allweddol, cwestiynau, ystyriaethau a dadleuon a fydd yn arwain blaenoriaethau ymchwil ISWE dros y blynyddoedd sydd i ddod, a phwysleisiodd pa mor bwysig yw cael dadansoddiad newydd o rôl y stadau yn hanes a datblygiad Cymru.

 

Cewch drawsgrifiad o'r ddarlith yma.

Dogfennau cysylltiedig:

Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2015