Llawysgrifau Mostyn: Arddangosfa'r Canmlwyddiant

#Mostyn100

Mewn digwyddiad arbennig brynhawn Gwener (6 Gorffennaf), bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor a Stadau Mostyn, yn lansio tymor o ddigwyddiadau’n gysylltiedig ag Arddangosfa Canmlwyddiant Llawysgrifau Mostyn.

Ystyrir mai derbyn llawysgrifau Cymraeg a Chymreig o Blasty Mostyn, sir y Fflint yn 1918 yw un o’r cerrig-milltir yn hanes y Llyfrgell Genedlaethol, a’r ymdrech i ddiogelu treftadaeth lenyddol a hanesyddol y genedl. Mae Arddangosfa’r Canmlwyddiant yn rhoi sylw i rai o’r trysorau a dderbyniwyd gan y Llyfrgell yn 1918, ochr-yn-ochr ag eitemau arbennig a gedwir o hyd ym Mhlasty Mostyn, yng nghasgliad preifat yr Arglwydd Mostyn.

Mynychir lansiad dydd Gwener gan yr Arglwydd Elis-Thomas, fydd yn agor yr arddangosfa ar ran Llywodraeth Cymru, ynghyd â’r Arglwydd Mostyn, y 7fed Barwn, perchennog presennol Plasty Mostyn, a disgynnydd y rhai a luniodd gasgliad rhyfeddol y teulu o lawysgrifau a llyfrau.

Mae Tymor Mostyn yn ffrwyth cydweithio rhwng y Llyfrgell a Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym Mhrifysgol Bangor. Cyfarwyddwr y Sefydliad yw Dr Shaun Evans, brodor o Dre-Mostyn, ac arbenigwr ar hanes y Stad. Dywed Dr Evans:

“Mae’r Sefydliad yn falch iawn o gael cydweithio gyda’r Llyfrgell Genedlaethol a Stadau Mostyn ar raglen gyffrous yr arddangosfa hon. Trwy gydol ei hanes maith, creodd teulu Mostyn gasgliad rhyfeddol o lawysgrifau, llyfrau ac eitemau eraill sy’n ffurfio rhan bwysig o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru. Mae’r arddangosfa hon yn achlysur arbennig i ddod a rhan o gasgliad Mostyn ynghyd unwaith eto, a’i ddangos, ac yn gyfle gwerthfawr i ystyried cyfleoedd ymchwil yn deillio ohono.”

Yn ystod Tymor Mostyn, bydd Dr Evans yn darlithio yn Aberystwyth a gogledd Cymru ar agweddau o hanes y stad, a bydd y Sefydliad yn cyd-drefnu symposiwm academaidd undydd yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 2 Tachwedd, fydd yn canolbwyntio ar dreftadaeth casgliadau llyfrgell Mostyn. Trefnir y symposiwm hefyd gan Ganolfan Stephen Colclough ar gyfer Hanes a Diwylliant y Llyfr ym Mhrifysgol Bangor.

Bydd Arddangosfa Canmlwyddiant Llawysgrifau Mostyn ar agor yn y Llyfrgell Genedlaethol hyd 8 Rhagfyr.

Dogfennau cysylltiedig:

Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2018