LLWYDDIANT GRADDIO I FYFYRIWR 'PROSIECT MOSTYN'

Llongyfarchiadau mawr i Dr Sam Garland a raddiodd ym Mangor yn ystod yr haf ar ôl cwblhau ei brosiect PhD, yn seiliedig ar y casgliad o newyddlenni llawysgrifol a anfonwyd at Thomas Mostyn o Gloddaith yn niwedd yr ail ganrif ar bymtheg.    Roedd ymchwil Sam yn rhan o 'Brosiect Mostyn', sy'n ceisio rhyddhau potensial ymchwil y casgliadau a gynhyrchwyd gan deulu ac ystâd Mostyn dros y canrifoedd. 

Gwnaeth Sam ei ddoethuriaeth yn yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg, dan arolygiaeth yr Athro Tony Claydon.

Teitl ei draethawd doethurol yw ‘News in late-Seventeenth Century Britain’ a gellir ei ddarllen yn Llyfrgell y Brifysgol.  Gellir gweld rhagor o wybodaeth ynglŷn ag ymchwil Sam yn rhifyn cyntaf Newyddlen Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru

Dymunwn bob llwyddiant i Sam i'r dyfodol.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Awst 2016