PLASTAI CYMRU YN AGOR EU DRYSAU FIS MEDI

Mae dwsinau o blastai a safleoedd treftadaeth pwysig eraill Cymru yn paratoi i groesawu'r cyhoedd fis Medi fel rhan o raglen o ddigwyddiadau sy'n rhan o fenter 'Drysau Agored'.

CADW sydd yn trefnu 'Drysau Agored', sef dathliad cenedlaethol o etifeddiaeth bensaernïol Cymru, sy'n rhoi cyfleoedd unigryw i drigolion lleol ac ymwelwyr archwilio nifer o safleoedd hanesyddol, a hynny yn rhad ac am ddim.

Ers ei sefydlu mae'r digwyddiad wedi parhau i dynnu sylw at bwysigrwydd diwylliannol etifeddiaeth plastai mewn cymunedau ledled Cymru. 

Mae'r safleoedd sy'n cymryd rhan yn y digwyddiad eleni yn cynnwys Parc Iscoed, Castell y Waun ac Erddig yn y gogledd ddwyrain; a Gwaenynog (Dinbych), Nantclwyd y Dre (Rhuthun), Hafodunos (Llangernyw) a Phlas Mawr (Conwy); a Chastell Penrhyn, Bodorgan, Plas Newydd a Hafoty yng ngogledd orllewin Cymru.  Yng nghanolbarth Cymru cynhelir digwyddiadau yng nghwrt Tre-tŵr, Gregynog, Castell Powis ac yn Llanerchaeron; yn y de orllewin mae modd gweld Castell Dinefwr, Talacharn a Fferm Cwrt, Pen-bre; a bydd Llancaiach Fawr, Gerddi Dyffryn, Plas Tredegar a Chastell Rhaglan yn agor eu drysau yn y de ddwyrain. 

Ar ben hynny, bydd cyfleoedd i ymwelwyr ddysgu am agweddau eraill o dreftadaeth yr ystadau mewn nifer fawr o eglwysi hanesyddol sy'n cymryd rhan yn y rhaglen, yn ychwanegol at yr archifdai, yr amgueddfeydd a'r llyfrgelloedd sy'n cynnal digwyddiadau ledled Cymru.

Mae’r rhaglen digwyddiadau ar gael yn llawn yma.

Bydd Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor yn cynnal digwyddiad arbennig fel rhan o'r rhaglen ar 24 Medi.  Bydd hyn yn cynnwys cyfle i archwilio rhannau pwysig o'r casgliad, i glywed am waith tîm yr archifdy ac i archwilio arddangosfa "Ymwelwyr a theithwyr Gogledd Cymru'.  Rhaid i chi archebu ymlaen llaw gan fod llefydd yn brin. Cynhelir y sesiwn Saesneg rhwng 10.00 ac 11.00am. Cynhelir y sesiwn Gymraeg rhwng 11.30am-12.3pm. Ffoniwch 01248 383276 i gadw lle neu anfonwch e-bost at  archifau@bangor.ac.uk.  

 

 

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 5 Medi 2016