Prifysgol Bangor yn cael grant i ddatgelu cynnwys llythyrau Mostyn o'r 17 ganrif

Un o tair mil o lythyrau prin sydd wedi goroesi o'r ail ganrif ar bymtheg   yn Ystad Mostyn a Gloddaith.Un o tair mil o lythyrau prin sydd wedi goroesi o'r ail ganrif ar bymtheg yn Ystad Mostyn a Gloddaith.Bydd tair mil o lythyrau prin sydd wedi goroesi o'r ail ganrif ar bymtheg  a'r ddeunawfed ganrif ar gael i ysgolheigion rhyngwladol yn dilyn grant ymchwil newydd gan Gronfa Marc Fitch.

Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, Prifysgol Bangor wedi cael grant o £40,000 i ddigido ac ymchwilio i gasgliad eithriadol o lythyrau a gedwir yn llyfrgell Plas Mostyn yn Sir y Fflint.

Llythyrau wedi eu hysgrifennu â llaw yw'r rhain a anfonwyd at Syr Thomas Mostyn (1651-92) a Syr Roger Mostyn (1673-1739) gan rwydwaith helaeth o gysylltiadau a gohebwyr rhwng c.1672-92 a c.1721-40.  Dyma un o'r casgliadau mwyaf cynhwysfawr o lythyrau sydd wedi goroesi o Gymru'r ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif.  Yn ystod y cyfnod hwn roedd Mostyniaid Plas Mostyn a Phlas Gloddaith yn un o deuluoedd bonedd amlycaf Cymru.  Mae'r llythyrau'n ymwneud â phob agwedd o'u diddordebau a'u gweithgareddau, o faterion seneddol, dadleuon crefyddol a swyddogaethau, i gasglu llyfrau, strategaethau priodi, addysg, hynafiaethau a straeon lleol.  Yn eu mysg hefyd mae casgliad heb ei ail o gylchlythyrau wedi eu personoli, a anfonwyd o Lundain i Blas Gloddaith, sy'n cynnig sylw manwl ar bob agwedd o newyddion cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae'r llythyrau wedi'u rhwymo mewn cyfrolau sy'n rhan o'r llyfrgell enwog ym Mhlas Mostyn, Sir y Fflint.  Diolch i gefnogaeth yr Arglwydd Mostyn, bydd yr holl lythyrau bellach yn cael eu digido a byddant ar gael i chwilio trwyddynt a'u darllen ar wefan Early Modern Letters Online (EMLO) dal ofal Prifysgol Rhydychen.

Manylun cyfeiriad oddi ar un o'r llythyrau.: Hawlfraint hwn a'r llun uchod ac isod Ystad Mostyn.Manylun cyfeiriad oddi ar un o'r llythyrau.: Hawlfraint hwn a'r llun uchod Ystad Mostyn.Yn ystod y project bydd Dr Mary Chadwick a Dr Sarah Ward Clavier (Prifysgol Gorllewin Lloegr) yn ymchwilio i gynnwys y llythyrau ac yn eu trawsgrifio ac yn chwilio am gyfleoedd i'r casgliad fedru cynnig syniadau newydd am hanes Cymru, Lloegr ac Ewrop. 

Bydd y project yn digwydd ochr yn ochr â chyfres o ddigwyddiadau a gynhelir fel rhan o arddangosfa Mostyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.  Mae'r arddangosfa'n nodi canmlwyddiant llawysgrifau Mostyn yn y Llyfrgell.  Cafodd ei datblygu mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor ac Ystad Mostyn ac yn ogystal â dangos rhai o lawysgrifau mwyaf arwyddocaol y Llyfrgell bydd nifer o eitemau o Blas Mostyn yn rhan o'r arddangosfa.

Cyhoeddwyd project Cronfa Marc Fitch yn ffurfiol wrth lansio arddangosfa #Mostyn100 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 6 Gorffennaf.

Wrth sôn am y grant, dywedodd Dr Shaun Evans, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru:

'Dan ni wrth ein boddau ein bod ni wedi cael y grant yma gan Gronfa Marc Fitch. Mi fydd yn ein galluogi ni i ddatgloi potensial ymchwil un o'r casgliadau pwysicaf o lythyrau sydd wedi goroesi o ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg a dechrau'r ddeunawfed ganrif yng Nghymru.  Bydd y cyllid ar gyfer digido yn ein galluogi ni i sicrhau bod y llythyrau ar gael i ysgolheigion ledled y byd am y tro cyntaf.  Dan ni'n hynod ddiolchgar i Gronfa Marc Fitch am gefnogi'r project, ac i'r Arglwydd Mostyn am ei barodrwydd i rannu'r casgliad yma sy'n rhan mor bwysig o'n treftadaeth ddiwylliannol.  Gall y llythyrau roi golwg newydd i ni ar ystod o faterion a digwyddiadau hanesyddol a byddant yn cael eu defnyddio gan academyddion am flynyddoedd i ddod.''

Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2018