Project Rhug

Project Rhug

Mae Prifysgol Bangor ac Ystad Rhug yn hynod falch o gyhoeddi lansio project ar y cyd i ymchwilio i ddylanwad a phwysigrwydd stadau Rhug a Bachymbyd yn yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg.

Bydd y project PhD tair blynedd, a gyllidir gan Yr Arglwydd Newborough, yn rhan ganolog o ddatblygiad cynnar Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru (SYYC).  

Sefydlwyd Ystâd Rhug yn yr oesoedd canol gan ddisgynyddion Owain Brogyntyn. Erbyn dechrau'r unfed ganrif ar bymtheg roedd wedi dod yn eiddo, drwy briodas, i gangen Bachymbyd o deulu dylanwadol Salesbury, a thros gyfnod o ddwy ganrif fe wnaethant ei datblygu'n un o ystadau tiriog amlycaf Gogledd Cymru, gyda thiroedd sylweddol ar draws Sir Ddinbych a Sir Feirionnydd.    Yn ystod cenedlaethau dilynol daeth yr ystâd i feddiant Fychaniaid Nannau, cyn cael ei hetifeddu yn 1859 gan Charles Henry Wynn (1847-1911) o Glynllifon.   Ohono ef, mae'r ystâd wedi cael ei throsglwyddo drwy etifeddiaeth i'w pherchennog presennol, yr 8fed Arglwydd Newborough.   Erbyn hyn mae Ystâd Rhug yn fenter wledig fywiog, gyda'i fferm organig (sydd wedi ennill sawl gwobr) siop a bistro yng Nghorwen.

Bydd y project yn canolbwyntio ar hunaniaeth a dylanwad yr ystâd yn ystod yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg ac, yn arbennig, sut y defnyddiodd y teulu Salesbury eu dylanwad tiriog i hyrwyddo eu statws, eu hanrhydedd a'u hawdurdod.

Meddai Dr Shaun Evans, Cyfarwyddwr SYYC, wrth ystyried y lansio, "mae'n wych medru dechrau ar y project cydweithredol cyffrous yma gan ei fod yn rhoi cymaint o gyfleoedd i wneud darganfyddiadau newydd am hanes sy'n berthnasol i gymunedau lleol, ond hefyd i'n dealltwriaeth o themâu a materion ehangach. Gwasanaethodd y Salesbriaid fel aelodau seneddol yn Llundain, buont yn ymladd fel milwyr ar draws Ewrop a datblygu cysylltiadau nawdd cadarn gyda rhai o uchelwyr amlycaf Lloegr. Fodd bynnag, fe wnaethant barhau i fod yn noddwyr hael y diwylliant Cymraeg, parhau i wasanaethu fel deiliaid swyddi lleol a chyda diddordeb dwfn a balchder yn eu treftadaeth hynafol. Mae'r project hwn yn rhoi cyfle i archwilio'r cysylltiadau rhwng y dimensiynau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol hyn a bydd yn cyfrannu llawer at ein dealltwriaeth o hunaniaethau'r uchelwyr Cymreig a'u hystadau." 

Bydd casgliadau'r ystâd a ddelir gan Archifau Gwynedd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn sail i ddatblygiad y project.

Gwneir yr ymchwil gan Sadie Jarrett sy'n hanu o Bort Talbot. Graddiodd mewn hanes o brifysgolion Caergrawnt ac Oxford Brooks.   Lansiwyd y project yn Rhug ar 21 Medi gyda thaith dywys o amgylch yr ystâd ac ymweliad â Chapel Rhug.   

Dogfennau cysylltiedig:

Dyddiad cyhoeddi: 27 Medi 2017