Project ymchwil i archwilio effeithiau ystadau ar gymunedau Dyffryn Ogwen

Beth oedd y perthynas rhwng y Cîperwyr ar Stâd Penrhyn a'r gymuned tybed?Beth oedd y perthynas rhwng y Cîperwyr ar Stâd Penrhyn a'r gymuned tybed?Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn grant o £10,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri i weithio gyda chymunedau yn Nyffryn Ogwen yng Ngwynedd i edrych ar fywydau a phrofiadau'r cenedlaethau hynny o bobl a fu'n byw a gweithio ar ystâd y Penrhyn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif.

Am ganrifoedd bu ystâd y Penrhyn yn rym hynod nerthol ym mywyd gogledd-orllewin Cymru. Roedd yn berchen ar diroedd eang a'i dylanwad yn treiddio i bob agwedd ar gymdeithas, megis diwydiant, gwleidyddiaeth, diwylliant a chrefydd, pensaernïaeth, ffermio a rheoli tir.   Mae rhannau pwysig o'r stori gymhleth hon, a oedd yn gynhennus iawn ar brydiau, wedi eu diogelu a'u dehongli mewn safleoedd treftadaeth o bwys, yn cynnwys Castell Penrhyn a'r Amgueddfa Lechi Genedlaethol.   Fodd bynnag, ni roddwyd fawr o sylw hyd yma i fywydau a phrofiadau'r miloedd o bobl hynny a fu'n byw ar yr ystâd fel tenantiaid ac a oedd yn gweithio ar ffermydd yr ystâd, neu a gyflogid fel coedwigwyr, ciperiaid neu fel gweision a morwynion yn y Castell.   Nod y project yw unioni'r diffyg hwn drwy atgofion a memorabilia pobl sy'n byw yn yr ardal, a thrwy ymchwilio i gofnodion hanesyddol a gedwir yn Archifau Prifysgol Bangor ac Archifdy Caernarfon.  

Cynhelir y project treftadaeth tri mis rhwng Ionawr a Mawrth 2018 a bydd yn cynnwys amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau mewn gwahanol fannau ar draws y rhanbarth i gasglu a rhannu gwybodaeth.   Anogir aelodau'r cyhoedd sydd eisiau rhannu eu gwybodaeth neu gymryd rhan yn yr ymchwil i ddod i un o'r digwyddiadau Oes yna dystiolaeth sut brofiad oedd bod yn weithiwr new weithwraig ar stad y Penrhyn yn bodoli yn rhywle?Oes yna dystiolaeth sut brofiad oedd bod yn weithiwr new weithwraig ar stad y Penrhyn yn bodoli yn rhywle?hyn i rannu atgofion a memorabilia.   Bydd y project hefyd yn cynnwys teithiau treftadaeth, gweithdai archif, sesiynau hyfforddi a rhoi sylw arbennig i ymchwil. 

Erbyn diwedd y project, mae'r tîm yn gobeithio y bydd wedi casglu gwybodaeth a fydd o help i ateb rhai o'r cwestiynau a ganlyn:   Sut y gwnaeth blaenoriaethau a gweithredoedd tirfeddianwyr effeithio ar gymunedau ar draws Dyffryn Ogwen?   Sut berthynas oedd yna rhwng landlordiaid a thenantiaid?  Sut brofiad oedd gweithio fel gwas neu forwyn yng Nghastell Penrhyn?   Sut y dylanwadodd ystadau ar arddull pensaernïaeth leol?   Beth oedd effeithiau dirywiad a gwerthu'r ystadau yn yr ugeinfed ganrif ar y gymuned?   Cyflwynir y darganfyddiadau hyn drwy arddangosfa deithiol ac ar-lein drwy wefan y project. 

Meddai Dr Shaun Evans, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, wrth ymateb i'r newydd am dderbyn y grant: 

'Dwi'n hynod falch ein bod wedi llwyddo i gael cyllid o Gronfa Treftadaeth y Loteri ar gyfer y project cyffrous yma a fydd yn galluogi'r brifysgol i gydweithio'n agos â grwpiau cymunedol a sefydliadau treftadaeth ar draws y rhanbarth er mwyn ehangu ein dealltwriaeth o agweddau ar hanes Cymru sydd wedi cael eu hesgeuluso hyd yma.   Hoffwn annog unrhyw un sydd â chysylltiad hanesyddol â'r rhanbarth i gymryd rhan yn y project drwy rannu eu hatgofion, tyrchu am hen luniau teuluol, ymuno â'r tîm ymchwil neu ddod i'r digwyddiadau.   Llawer o ddiolch i chwaraewyr y Loteri Cenedlaethol am eu cefnogaeth."   

Dogfennau cysylltiedig:

Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2018