Sefydliad Ymchwil Stadau Cymru, Prifysgol Bangor

Mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu sefydliad ymchwil ym Mhrifysgol Bangor fydd yn canolbwyntio ar amrywiaeth o agweddau yn gysylltiedig â stadau yng Nghymru.  Bydd Sefydliad Ymchwil Stadau Cymru yn amcanu i gefnogi ymchwil ar stadau tir yng Nghymru, i gydweithio ar brojectau rhyng-ddisgyblaethol, i drefnu cynadleddau a gweithdai yn ogystal â gweithio gyda’r sector treftadaeth, ysgolion a grwpiau hanes a Nia Powell, arlithydd mewn Hanes Cymru, gyda’r Is-Ganghellor, Yr Athro John Hughes yn lansio’r Sefydliad newydd.Nia Powell, arlithydd mewn Hanes Cymru, gyda’r Is-Ganghellor, Yr Athro John Hughes yn lansio’r Sefydliad newydd.chymdeithasau ar draws Cymru.  
 
Ar ddydd Fwener 15 Tachwedd cynhaliwyd cinio i’r teuluoedd sydd wedi cyflwyo papurau stad i Archifdy Prifysgol Bangor.  Yn dilyn croeso gan yr Athro John Hughes (yr Is-Ganghellor), tynnodd Einion Thomas (Archifydd a Llyfrgellydd Cymreig y Brifysgol) sylw at ddetholiad o ddogfennau sydd i’w canfod ymysg yr hanner cant a mwy o gasgliadau o bapurau stad sydd wedi’u cartrefu yn Archifdy’r Brifysgol.  Siaradodd Nia Powell (Darlithydd mewn Hanes Cymru) am brif amcanion y sefydliad ac am stadau yng ngogledd Cymru, tra’r cyflwynodd Dr Lowri Ann Rees (Darlithydd mewn Hanes Modern) orolwg o natur stadau yn ne Cymru.  

Yn ôl Dr Rees:
“Ni fydd y ganolfan ymchwil wedi’i chyfyngu i archwilio stadau lleol yn unig, ond bydd hefyd yn dehongli’r darlun cyffredinol yng Nghymru benbaladr a thu hwnt.  Edrychwn ymlaen i gydweithio â grwpiau cymunedol ac haneswyr sydd â gwybodaeth arbenigol o’u stadau lleol.”
 
Am wybodaeth bellach am y ganolfan ymchwil, plîs cysylltwch ag iswe@bangor.ac.uk.  Mae oriel lluniau o’r cinio i’w gweld yma.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2013