The Rhug Project: Fully funded 3 year PhD Studentship

Prosiect Rhug: Efrydiaeth PhD dair blynedd, wedi’i chyllido’n llawn

Efrydiaeth PhD dair blynedd, wedi’i chyllido’n llawn, mewn astudiaethau hanes, diwylliant a thirwedd Cymreig, c.1450-1700. Yn dechrau ym mis Hydref 2017

Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru (SYYC) ym Mhrifysgol Bangor yn gwahodd ceisiadau am Efrydiaeth PhD 3 blynedd wedi'i chyllido'n llawn yn canolbwyntio ar hanes, diwylliant a thirwedd Ystâd Rhug yng ngogledd Cymru yn ystod y cyfnod c.1450-1700.  

Noddir yr efrydiaeth unigryw hon gan Ystâd Rhug ac mae'n cynnwys cyflog llawn am dair blynedd yn ogystal â chost holl ffioedd hyfforddi a chyllid i fynd i gynhadledd ryngwladol. 

Goruchwylir y project gan dîm academaidd arbenigol a rhyngddisgyblaethol yn cynnwys Yr Athro Huw Pryce (Athro Hanes Cymru), Yr Athro Peredur Lynch (Athro'r Gymraeg) a Dr Shaun Evans (Rheolwr Prosiect SYYC). Mae'n gyfle gwych i fyfyriwr graddedig dawnus, blaengar ac uchelgeisiol ddatblygu gyrfa yn y sectorau academaidd ac / neu dreftadaeth ddiwylliannol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o'r Ysgol Hanes ac Archaeoleg.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 26 Mehefin 2017.

Further information and application details available here;

Dogfennau cysylltiedig:

Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2017