YMWELIAD ARBENNIG GAN GANOLFAN ARCHIF IWERDDON

Ym mis Mehefin roedd yn bleser gan Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ac Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor groesawu Nicola Kelly ar leoliad Erasmus byr.  Mae Nicola yn Archifydd yng Nghanolfan Archifau ac Ymchwil OPW-Maynooth sydd wedi'i leoli yn Castletown House yn Iwerddon. Mae'n ystorfa arbenigol, a sefydlwyd yn 2008 i gasglu, cadw, hyrwyddo a sicrhau bod casgliadau archifol ymchwil mewn perthynas ag ystadau Gwyddelig ar gael, gyda llawer o'r stadau wedi aros mewn meddiant preifat.  Mae Nicola yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn y Ganolfan Astudio Tai ac Ystadau Gwyddelig Hanesyddol.

Roedd y lleoliad yn gyfle gwych i rannu ymarfer gorau gydag archifau, ymchwil seiliedig ar gasgliadau a dehongli treftadaeth ac roedd yn cynnwys ymweliadau â Chastell Penrhyn, Amgueddfa Storiel a swyddfa stad Bodorgan.

Gobeithiwn ymweld â Nicola draw yn Iwerddon yn y dyfodol agos!

Dyddiad cyhoeddi: 2 Gorffennaf 2019