Ymwelwyr o Iwerddon

Ymwelodd yr Athro Terrence Dooley a’r Dr Ciaran Reilly o Brifysgol Maynooth â Bangor ar 22 Mai 2014. Buont yn ymweld â mannau ym Meirionnydd a oedd yn gysylltiedig â hanes Gweriniaeth Iwerddon, gan gynnwys safle Gwersyll y Frongoch, Bala, lle carcharwyd gweriniaethwyr Gwyddelig yn nechrau’r ugeinfed ganrif.

Yr Athro Dooley yw Cyfarwyddwr Canolfan Astudio Tai Hanesyddol ac Ystadau Tiriog Iwerddon ym Mhrifysgol Maynooth. (The Centre for the Study of Historic Irish Houses and Estates), ac y mae’r Dr Reilly’n gymrawd ymchwil yn y ganolfan. Traddododd Dr Reilly ddarlith yng nghyfres seminarau ymchwil SYYC/ISWE ar ‘Using estate records to reconstruct Irish famine communities‘.     

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2015