Ein Casgliadau
Archifau ystadau ym Mhrifysgol Bangor
Ym Mhrifysgol Bangor rydym yn gweithredu fel partneriaeth gydag Archifau a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol.
Mae archifau ystadau wedi cynrychioli ffocws tymor hir ym mholisi casglu Archifau Prifysgol Bangor a'i ragflaenwyr. Yn ystod ei gyfnod fel Llyfrgellydd Prifysgol rhwng 1926 a 1946, trafododd Thomas Richards (1878–1962) â thirfeddianwyr gogledd Cymru i sicrhau y rhoddwyd ar gadw ddwsinau o archifau ystadau; tuedd a barhaodd o dan ei olynwyr fel rhan o strategaeth ehangach i sefydlu 'canolfan ymchwil o'r radd flaenaf i fyfyrwyr hanes Cymru'.
Mae'r tîm Archifau a Chasgliadau Arbennig yn gyfrifol am gasglu a chadw'r archifau yn y tymor hir, ac am sicrhau bod yr adnoddau'n hygyrch i'r holl ymchwilwyr, yn rhad ac am ddim. Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn gweithio gyda'r Archifau i hyrwyddo'r casgliadau fel cyfrwng ymchwil a dysgu gwerthfawr, ac i gyfleu eu pwysigrwydd cyhoeddus i ddeall hanesion, diwylliannau a thirweddau gogledd Cymru. Mae'r casgliadau yn agored i ymchwilwyr, myfyrwyr ac aelodau'r cyhoedd, a gellir eu gweld â nhw ar y safle yn yr Archifau a'r Casgliadau Arbennig ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor. Mae mwy o wybodaeth am y casgliadau, ac am ymweld â'r archifau, i'w gweld ar wefan Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor.
Mae casgliad archifau ystâd Prifysgol Bangor yn un o'r rhai mwyaf sylweddol yn Ewrop. Mae'r archifau'n cwmpasu'r rhan fwyaf o ardaloedd gogledd Cymru ac yn ymwneud â rhai o ystadau amlycaf y rhanbarth, gan gynnwys Baron Hill, Mostyn a'r Penrhyn.
Mae'r Catalog Ar-lein Archifau a Chasgliadau Arbennig ar gael i chwilio drwyddo yn: http://calmview.bangor.ac.uk/Calmview/
(Sylwch, er bod y catalog ar-lein yn cael ei wella'n barhaus, mae'n dal i fod yn anghyflawn. Mae catalogau copi caled ar gael i edrych drwyddynt ar y safle).
Mae'r rhestr isod o'r prif archifau ystadau sydd gan Brifysgol Bangor, gan gynnwys cysylltiadau i'r disgrifiadau o'r casgliadau ar Archives Hub. Trefnir yr archifau yma yn ôl siroedd Cymru cyn 1974, er y dylid nodi bod y rhan fwyaf o'r casgliadau yn cynnwys cofnodion sy'n ymwneud â thiroedd mewn sawl sir.
Ynys Môn:
- Baron Hill
- Bodorgan
- Plas Dinam
- Henblas
- Henllys
- Lligwy
- Llys Dulas
- Parciau
- Penrhos
- Plas Bodafon
- Plas Cadnant
- Plas Coch a'r Brynddu
- Plas Gwyn
- Plas Newydd
- Presaddfed a Dronwy
- Rhianfa
- Tregayan
Sir Gaernarfon:
Sir Ddinbych
Sir y Fflint
Sir Feirionnydd:
(Sylwch fod llawer o'r casgliadau hyn yn cynnwys archifau ystadau eraill; er enghraifft, mae casgliad Mostyn hefyd yn cynnwys archifau ystâd Corsygedol a Gloddaith. Sylwch hefyd fod archifau eraill yn aml yn ymwneud â'r ystadau hyn sy'n cael eu cadw gan ystorfeydd eraill).
Casgliadau Cyfreithwyr gan gynnwys cofnodion ystadau:
Catalogau Gwerthu:
Eitemau yn y Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau Bangor:
- Arolwg cartograffig o ystad y Wern gan Meredith Hughes (1773)
- Anerchiad dod i oed a gyflwynwyd i Syr Richard Williams Bulkeley o Baron Hill (1883)
- Dyddiaduron William Bulkeley (1691-1761) o'r Brynddu
- Dyddiaduron William Roberts, Garddwr ym Mhlas Glynllifon (1886-1909)
- Arolwg Fferm Eifionydd
- Llyfr ymwelwyr Castell Gwydir (1894-1910)
- Rhôl rhent ystad Plas Berw (1723)
- Arolwg o ystad Gwaenynog gan William Williams o Landygai (1777-1778)
- Prisio ystadau Gwynfryn a Phlas Hen (1876-79)
Mae Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor yn Wasanaeth Archifau Achrededig.