Ein Hymchwil

Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn ganolfan cenedlaethol ar gyfer cydlynu ymchwil i ystadau tir, plastai a'u harchifau a'u casgliadau treftadaeth cysylltiedig.  Mae gan y rhaglen hon o ysgolheictod botensial sylweddol i ailddiffinio sut rydym yn deall hanesion, diwylliannau a thirweddau Cymru.

Roedd yr ystadau yn ffurfio un o'r prif fframweithiau ym mywyd Cymru o adeg eu creu yn y cyfnod canoloesol hyd at eu tranc a'u chwalu ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.  Roedd perchnogaeth a rheolaeth tir yn caniatáu i'r bonedd ac uchelwyr ddylanwadu'n fawr ar feysydd mor amrywiol ag amaethyddiaeth a diwydiant; pensaernïaeth, celf, cerddoriaeth a llenyddiaeth; a gwleidyddiaeth, y gyfraith, masnach, crefydd ac addysg.  Roedd rhai o'r cylchoedd dylanwad hyn yn lleol iawn, gan effeithio ar natur lle a hunaniaeth ar draws gwahanol rannau o Gymru.  Roedd dylanwadau, diddordebau a chysylltiadau eraill yn genedlaethol ac yn rhyngwladol o ran cwmpas ac arwyddocâd.  Roedd yr ystadau'n amrywio o ran eu maint, cymeriad, cyfansoddiad a hirhoedledd, gan arwain at amrywiaeth o wahanol brofiadau.  Roeddent yn cynnwys ac yn effeithio ar bob haen o gymdeithas a bron pob rhan o'r dirwedd; o blastai gyda'u parciau, gerddi a thai allan i ffermydd tenantiaid a bythynnod, coedlannau, caeau a ffyrdd, eglwysi, capeli ac ysgolion, a safleoedd diwydiannol fel mwyngloddiau, chwareli a phorthladdoedd. 

Ein nod yw cynyddu dealltwriaeth o'r amrywiaeth cymhleth hwn trwy raglen fywiog o brojectau yn seiliedig ar gasgliadau, yn arbennig ar lefel doethuriaeth ac ar ddechrau gyrfa.  Mae ein hymchwil yn rhyngddisgyblaethol a chydweithredol ei natur, gan gasglu dealltwriaeth ac arbenigedd o wahanol feysydd pwnc ac amrywiaeth o ddeunyddiau ffynhonnell i gynnig safbwyntiau newydd.

Mae ein rhaglen yn cynnwys astudiaethau achos am ystadau a lleoedd penodol ynghyd â dadansoddiadau thematig, cynlluniau'n seiliedig ar gasgliadau a rhwydweithiau cydweithredol sy'n archwilio themâu a phynciau yn rhyngwladol.  Mae'r rhaglen hon yn adolygu'n gynyddol sut rydym yn deall ein hanes, diwylliant, tirwedd, hunaniaeth, cymdeithas, treftadaeth a'n hamgylchedd adeiledig. 

Mae'r themâu trawsbynciol allweddol yn ein hymchwil yn cynnwys:

  • Hunaniaethau a diwylliannau bonedd Cymru
  • Perchnogaeth tir, tirwedd a rheoli tir
  • Y Plasdy Cymreig: yn y gorffennol, presennol a'r dyfodol
  • Tenantiaid a thirfeddianwyr: cysylltiadau cymdeithasol yn hanes Cymru
  • Diwylliannau gweledol, materol, testunol a pherfformiadol Cymru: nawdd, casglu ac arddangos
  • Archifau ystadau: creu, defnyddio a chadw
  • Llinach, etifeddiaeth a defnydd o hanes
  • Hanes yr iaith Gymraeg ac amlieithrwydd
  • Rhywedd ac ystadau Cymru: hierarchaethau, swyddogaethau a chysylltiadau
  • Lle a hunaniaeth
  • Cysylltiadau byd-eang: Cymru, yr ymerodraeth a gwladychiaeth
  • Dylanwadau anghydffurfiaeth radical
  • Dehongli treftadaeth

Gallwch ddarllen mwy am ein hymchwil yn yr adran projectau ar ein gwefan.  Rydym yn croesawu ymholiadau a syniadau gan fyfyrwyr a sefydliadau allanol ynglŷn â darpar brojectau ymchwil sy'n gysylltiedig â'n diddordebau.