Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Ymchwil

Am ganrifoedd, ystadau fu'r prif ddylanwad ar fywyd Cymreig.

Ar ryw adeg neu'i gilydd mae blaenoriaethau ystâd, boed yn adeiladau o bob math, ffyrdd, caeau, gwrychoedd, waliau a therfynau, coedlannau, parciau a gerddi, a safleoedd diwydiannol fel mwyngloddiau a chwareli, wedi dylanwadu a siapio bron bob troedfedd sgwâr o dirwedd Cymru.   Mae’n bwysig cofio bod llawer o ystadau hanesyddol, neu eu holynwyr, yn parhau i ffynnu yn y byd modern. Yn ogystal, mae mathau eraill o ystâd, yn ystadau cyngor, diwydiannol, busnes a gwerthu hefyd wedi cael effaith ar y tirwedd.

O'u plastai grymus, bu gan berchenogion ystadau tiriog amlycaf Cymru ddylanwad enfawr dros eu cymunedau cyfagos am gyfnodau maith iawn.   Roedd eu grym gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd yn aruthrol ar adegau. Amlygid y grym hwnnw drwy lywodraeth leol, nawdd diwylliannol, datblygiadau diwydiannol ac amaethyddol, addysg, gweithgareddau hamdden a landlordiaeth, i enwi ond rhai enghreifftiau. 

Fodd bynnag, nid oedd pob ystâd yn fawr; nid oedd yr ymdeimlad o le a pherthyn yn gysylltiedig ag ystadau wedi ei gyfyngu i'r bonedd chwaith.   Mae cenedlaethau o bobl 'gyffredin' wedi byw ar ystadau, wedi darparu nwyddau a gwasanaethau i ystadau, neu wedi gweithio mewn plastai ac ar ffermydd ac mewn gerddi ystadau.   Ystadau oedd yn cynnal llawer o wead cymunedau Cymreig ynghyd mewn gwirionedd, gyda'r cysylltiadau hynny a oedd yn cael eu trafod rhwng landlordiaid, tenantiaid, gweision a morynion, cymdogion, asiantwyr a chanlynwyr yn ffurfio patrwm clos a pharhaol.

Mae dylanwad hanesyddol a diwylliannol ystadau ar ddatblygiad bywyd Cymreig wedi bod yn enfawr.  

Mae'r cyd-destun hwn yn rhoi llwyfan bywiog ar gyfer ymchwil ar draws nifer o ddisgyblaethau academaidd, a rhyngddynt.

Site footer