Cefnogi Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru
Mae SYYC yn dod i'r amlwg fel presenoldeb deallusol ffres ym mywyd Cymru: Canolbwynt cydweithredu cenedlaethol newydd i gydlynu ymchwil i hanes Cymru drwy lygaid ei hystadau fel petae.
Mae eich cefnogaeth ddyngarol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r hyn y gallwn ei gyflawni.
Os ydych yn rhannu ein hamcanion a'n dyheadau ac yr hoffech gyfrannu at ein cenhadaeth, gallech gynorthwyo i chwarae rhan bwysig yn y canlynol:
- meithrin y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr blaengar er mwyn sicrhau fod astudio hanes Cymru'n parhau'n ddisgyblaeth academaidd ffyniannus;
- datgloi'r straeon rhyfeddol sydd wedi'u cuddio mewn casgliadau ystadau mewn archifau a phlastai ledled Cymru;
- hyrwyddo hanes a threftadaeth Cymru i gynulleidfaoedd newydd ac ehangach, trwy ddigwyddiadau cyhoeddus, gweithgareddau estyn allan a chyhoeddiadau;
- diogelu, cofnodi, digideiddio ac arddangos rhannau pwysig o dreftadaeth ddogfennol y genedl, a gedwir yn ein Harchifau a Chasgliadau Arbennig.
Mae cefnogaeth cyfranwyr yn allweddol i'n galluogi i gyflymu ein cynnydd. Gyda'ch cefnogaeth chi gallwn ddatblygu rhaglen ymchwil sydd â photensial enfawr i fywiogi a herio ein dealltwriaeth o orffennol Cymru, a'i wneud yn berthnasol i amrywiaeth o gynulleidfaoedd newydd ac ehangach.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y ffordd mae'ch rhodd yn gwneud gwahaniaeth, anfonwch e-bost at iswe@bangor.ac.uk i gofrestru i dderbyn ein cylchlythyr. Mae croeso cynnes hefyd i chi ddod i un o'n digwyddiadau cyhoeddus niferus ledled Cymru.