Amdanom Ni

Ein dull o weithredu

⁠Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru wedi ei sefydlu ym Mhrifysgol Bangor fel menter arloesol hirdymor gyda’r nod o drawsnewid dealltwriaeth o hanes a diwylliant Cymru, a’i thirweddau, amgylcheddau adeiledig a chasgliadau treftadaeth.

Mae hyn yn cynnwys nid yn unig ysgolheictod o ansawdd uchel, ond hefyd adeiladu rhyngweithio cyson rhwng arbenigedd academaidd ac archifau a sefydliadau treftadaeth y wlad, perchenogion a gwarcheidwaid plastai a thirweddau hanesyddol Cymru, a chymunedau lleol, gyda’r bwriad o ffurfio a rhannu dealltwriaeth newydd am orffennol, presennol a dyfodol Cymru.

Mae ein holl brojectau yn pwyso ar y casgliadau hanesyddol – yn archifau, llawysgrifau, adeiladau, llyfrgelloedd, tirweddau, cofebau a gweithiau celf – a gynhyrchwyd, a gasglwyd neu a ddiogelwyd gan ystadau Cymru a’u cymunedau cysylltiedig a’u gweithgareddau dros lawer canrif.

Hyd yma, nid yw’r sylfaen dystiolaeth ragorol hon, a gedwir mewn ystorfeydd cyhoeddus a phreifat ledled Cymru, wedi cael sylw academaidd cydunol a chydlynol. Uchelgais Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ar gyfer y genhedlaeth nesaf yw datgloi’r potensial ymchwil a threftadaeth trwy brojectau ac astudiaethau cydweithredol egnïol, yn arbennig trwy ein carfan ffyniannus o ymchwilwyr doethurol ac ymchwilwyr sydd ar ddechrau eu gyrfa.

O’r cyfnod canoloesol hyd at ddechrau’r ugeinfed ganrif, roedd yr ystadau yn rhan hanfodol o fywyd a strwythur Cymru, gan feddiannu llawer o’i thir a dylanwadu ar bob agwedd ar gymdeithas. Mae casgliadau ystadau’n rhychwantu amrywiaeth eithriadol o themâu a phynciau, o amaethyddiaeth, pensaernïaeth, cerddoriaeth, gwleidyddiaeth a’r economi i lenyddiaeth, diwydiant, cyfraith a’r iaith. Wrth ddadansoddi effeithiau a dylanwadau dwfn yr ystadau, ar draws pob rhan o Gymru, mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru mewn sefyllfa i greu corff newydd o ysgolheictod a fydd yn mireinio ac yn herio dehongliadau a chanfyddiadau sefydledig o orffennol Cymru.

Mae cyfleoedd o bwys i’r wybodaeth hon oleuo a dylanwadu ar bresennol a dyfodol Cymru – yn arbennig ym meysydd dehongli treftadaeth, twristiaeth gynaliadwy, defnydd tir a’r economi wledig; ac yn fwy sylfaenol fyth, mewn perthynas â’r ffordd y mae hunaniaeth Gymreig a lle Cymru yn Ynysoedd Prydain a gweddill y byd wedi cael eu ffurfio ac yn cael eu deall.

Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn cydnabod bod gan bobl Cymru ddiddordeb personol mewn deall hanes y lleoedd a’r cymunedau lle maent yn byw. Mae cyfrannu at ddehongli, cyflwyno a chyfoethogi hanes Cymru; hanes cymhleth a ddylai chwarae rhan annatod yng nghymdeithas Cymru, heddiw ac i’r dyfodol, yn rhan bwysig o hunaniaeth Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru. Rydym wedi ymrwymo i rannu ein llwybrau darganfod ac archwilio trwy agor cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned fel rhan o’n hymchwil, trefnu rhaglenni eang o ddigwyddiadau cyhoeddus ledled Cymru, a chynnal presenoldeb gweithredol ar gyfryngau cymdeithasol.

Mae’r cyfuniad o astudiaethau a lywir gan wybodaeth leol, ynghyd â chylch gorchwyl cenedlaethol i Gymru gyfan, yn unigryw i’r Sefydliad. Ym Mhrifysgol Bangor rydym yn elwa’n sylweddol o’n partneriaeth ag Archifau a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol.Ar ben hynny, mae gweithio’n agos gyda sefydliadau eraill a chanolfannau ymchwil cyfatebol ledled Cymru, Ynysoedd Prydain ac fel rhan o’r European Network for Country House and Estate Research yn gosod ein gwaith a’n canfyddiadau o fewn cyd-destun a dadl ddeallusol fywiog, sy’n arwyddocaol yn rhyngwladol ac yn ymgysylltu’n fyd-eang.