Croeso!
Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn ganolfan ymchwil genedlaethol sy'n bodoli i wella dealltwriaeth o swyddogaeth ystadau a phlastai yn hanes, diwylliannau a thirweddau Cymru.
Roeddent yn aml yn cael effeithiau a dylanwadau dwfn: hyd at eu chwalfa a'u tranc ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, roedd ystadau tiriog yn rhan annatod o fywyd Cymru. Yma y cafodd lawer o wead cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol, economaidd a diwydiannol Cymru ei bwytho gyda'i gilydd, gan ymestyn dylanwadau ar draws cylchoedd lleol, cenedlaethol a byd-eang.
O'n cartref ym Mhrifysgol Bangor rydym yn defnyddio'r archifau, casgliadau treftadaeth ddiwylliannol ac amgylcheddau adeiledig sy'n gysylltiedig â'r lleoedd hyn i hyrwyddo rhaglen ymchwil ryngddisgyblaethol, gan sicrhau bod y wybodaeth rydym yn ei chynhyrchu am orffennol Cymru yn hygyrch ac yn cael ei rhannu i gyfrannu'n adeiladol at ei dyfodol.
Mae ein gwaith wedi ei seilio ar yr egwyddorion canlynol:
- Rhagoriaeth ymchwil
- Wedi'u seilio ar gasgliadau
- Partneriaethau a chydweithio
- Rhyngddisgyblaethedd
- Ymwneud â'r cyhoedd a'r gymuned
Gweithio gyda'n partneriaid, ein nod yw gwneud cyfraniad tymor hir i fywyd deallusol a diwylliannol Cymru, ac i raglen ymchwil fywiog sy'n rhyngwladol o ran cwmpas ac arwyddocâd. Rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni yn ein cenhadaeth. I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith, manylion am ddigwyddiadau sydd i ddod a sut y gallwch gefnogi a dilyn ein datblygiadau, cysylltwch â ni.