Cefnogi ein gwaith
Cefnogi Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru
Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn datblygu'n bresenoldeb deallusol ffres ym mywyd Cymru: Canolfan genedlaethol newydd sy'n ymroddedig i hyrwyddo ymchwil a phrojectau arloesol am ein hanesion, ein diwylliannau a'n tirweddau.
Mae eich cefnogaeth ddyngarol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r hyn y gallwn ei gyflawni.
Os ydych chi'n rhannu ein nodau a'n dyheadau ac yn gallu cyfrannu tuag at ein cenhadaeth, gall eich cefnogaeth helpu:
- Meithrin y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr, sicrhau bod astudio Cymru a'i threftadaeth a'i diwylliant yn parhau i fod yn ffocws academaidd bywiog
- Datgloi'r naratifau a'r wybodaeth anhygoel sydd yn yr archifau ac ynghylch plastai, ystadau a chymunedau ledled Cymru
- Diogelu, cofnodi, digideiddio ac arddangos rhannau pwysig o dreftadaeth ddogfennol y genedl, a gedwir yn ein Harchifau a'n Casgliadau Arbennig.
- Hyrwyddo hanes a threftadaeth Cymru i gynulleidfaoedd newydd ac ehangach, trwy ddigwyddiadau cyhoeddus, gweithgareddau estyn allan a chyhoeddiadau
Cyfeillion Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru
Y ffordd fwyaf uniongyrchol o gefnogi ein gwaith yw dod yn un o Gyfeillion y Sefydliad. Sefydlwyd y Cyfeillion oherwydd y diddordeb cyhoeddus mawr yn ein gwaith ac mae eu cefnogaeth, eu hymroddiad a'u hanogaeth yn hanfodol i'n twf ninnau.
Mae'n bleser eich gwahodd i ddod yn Gyfaill ac i ystyried rhodd sengl neu flynyddol o £25, £50 neu £100.
Cewch roddi anrhegion ar-lein: https://www.bangor.ac.uk/cy/giving/how-to-give
Mae croeso hefyd i roddion drwy siec, cerdyn credyd a Debyd Uniongyrchol. Mae’r manylion cyswllt isod.
Llawer o ddiolch am eich cymorth.
Rhoddion Eraill
Rydym hefyd yn croesawu rhoddion untro mwy o faint, rhoddion rheolaidd neu waddol, gan gynnwys cyllid at brojectau penodol, efrydiaethau doethurol a bwrsariaethau. Cysylltwch â Dr Shaun Evans i drafod eich rhodd:
E-bost: shaun.evans@bangor.ac.uk
Ffôn: +44 (0) 1248 383617
Post: Cronfa Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, Y Swyddfa Ddatblygu, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd LL57 2DG
Rhagor o Wybodaeth
Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565
Pan fyddwch yn gwneud cyfraniad trwy Gymorth Rhodd, gallwn hawlio treth yn ôl ar y gyfradd sylfaenol yr ydych eisoes wedi'i thalu ar eich rhodd, oddi wrth Gyllid a Thollau EM. Mae hynny'n cynyddu gwerth eich rhodd inni 25%, heb ddim cost ychwanegol i chi. Os ydych yn talu treth ar y gyfradd uwch, gallwch hefyd hawlio'n ôl y gwahaniaeth rhwng y dreth ar y gyfradd uwch a'r gyfradd sylfaenol ar gyfanswm gwerth eich rhodd i'r Brifysgol ar eich ffurflen dreth Hunanasesu.
Cysylltwch â'r Swyddfa Ddatblygu am wybodaeth bellach ynglŷn â'r ffordd orau o roddi, a'r ffordd orau o drefnu eich rhodd i fanteisio ar y gostyngiad treth i roddwyr.