Ein Cyfarwyddwr

Dr Shaun Evans

Penodwyd Shaun yn Gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn 2015 gyda chyfrifoldebau dros oruchwylio rheolaeth, cyfeiriad strategol a datblygiad deallusol y ganolfan ymchwil.

Fe’i magwyd ar ystâd Mostyn yn Sir y Fflint, lle mae ei dad yn gweithio fel coedwigwr. Astudiodd Shaun Hanes yn Efrog cyn ymgymryd â phroject ymchwil doethurol ym Mhrifysgol Aberystwyth ar hunaniaeth linachol teulu ac ystâd y Mostyn yn yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg. Yn dilyn dyfarnu ei PhD bu’n gweithio yn y Tîm Ymchwil yn yr Archifau Cenedlaethol, gyda chyfrifoldebau dros raglenni ymchwil a strategaeth ymgysylltu academaidd, cyn dechrau yn ei swydd ym Mhrifysgol Bangor.

Mae Shaun yn hanesydd diwylliant bonedd ac ystadau tirfeddiannol yng Nghymru ar draws y cyfnod c.1500-1900. Mae ei ymchwil ar hanes cymdeithasol a diwylliannol perchnogaeth tir yn cynnig persbectif ar gyfer asesu cwestiynau ehangach am hunaniaeth, treftadaeth, cysylltiadau cymdeithasol, achau a materion yn ymwneud â grym, statws ac awdurdod yng Nghymru. Mae ganddo ddiddordeb hefyd yn y rhyngberthynas rhwng hunaniaethau lleol, Cymreig, Prydeinig ac Ewropeaidd, a'r perthynas rhwng 'canolfannau' a’r 'cyrion'. Mae hunaniaethau uchelwrol, y berthynas tirfeddiannwr-tenant a thirweddau ystadau yn ffocysau pwysig i’w waith. Adlewyrchir ei ddiddordeb yn niwylliannau gweledol, materol a pherfformiadol y plastai yn ei astudiaethau ar herodraeth, trysorau teuluol ac arferion coffau, portreadau gwerinol, llyfrgelloedd a pherthnasedd archifau. 

Mae ei ddulliau ymchwil yn eu hanfod yn gydweithredol a rhyngddisgyblaethol. Mae'n mwynhau gweithio gyda phartneriaid treftadaeth ddiwylliannol ar brojectau ymchwil yn seiliedig ar gasgliadau sy'n cael effaith y tu hwnt i'r byd academaidd, gan gynnwys ym maes dehongli treftadaeth. Mae'n eiriolwr cryf dros fethodoleg hanes cyhoeddus ac ymgysylltu'n ystyrlon â'r gymuned. Mae hefyd yn mwynhau goruchwylio projectau doethurol. Mae'r elfennau hyn i gyd wedi'u hymgorffori yn strategaeth a dulliau ehangach Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru.

Y tu hwnt i'w swyddogaethau ym Mhrifysgol Bangor, mae Shaun yn Gadeirydd Fforwm Treftadaeth Gogledd Ddwyrain Cymru, sy'n cynrychioli dros hanner cant o grwpiau hanes a threftadaeth leol ledled Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Mae'n Ymddiriedolwr y grŵp Darganfod Hen Dai Cymreig, yn Noddwr Cyfeillion Archifau Clwyd ac yn aelod o Gyngor Cymdeithas Hanesyddol Sir y Fflint. Mae hefyd yn aelod o Bwyllgor Ymgynghorol menter Rhestr Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

I gysylltu â Shaun gwelwch yr adran Cysylltu â Niar y wefan.