Tirweddau Ystadau AHRC

‘Mapio Dwfn’ archifau ystadau: Methodoleg newydd i ddadansoddi tirweddau ystadau c.1500–1930

Mae Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) wedi dyfarnu grant ymchwil gwerth £249,538 i dîm o sefydliadau ymchwil, treftadaeth ac archifau i fapio datblygiad a dylanwad hanesyddol ystadau tirfeddiannol yng ngogledd ddwyrain Cymru.

Bydd y project, a arweinir gan Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym Mhrifysgol Bangor, yn bartneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru.

O ddiwedd y cyfnod canoloesol hyd at ddechrau’r ugeinfed ganrif cafodd ymron i bob rhan o Gymru ei hamgáu gan glytwaith o ystadau tirfeddiannol o wahanol feintiau. Roedd y tirddaliadau hyn fel rheol yn gysylltiedig â phlasty ac yn sylfaen i ddylanwad cymdeithasol a gwleidyddol eu perchnogion, a estynnai dros ganrifoedd yn aml. Roedd perchnogaeth ar yr ystadau hyn hefyd yn golygu grym sylweddol i reoli agweddau ar ymddangosiad a threfniant y dirwedd, ynghyd â dylanwadu ar sut oedd y tir yn cael ei ddefnyddio, ei reoli, ei gyfanheddu a’i weithio – trwy gynlluniau amaethyddiaeth, amgáu, diwydiant, pensaernïaeth, coedwigaeth, hamdden, cludiant, garddwriaeth, dylunio tirwedd a thrwy berthynas â’r tenantiaid. Mae gwerthfawrogi’r rhyngweithiadau hyn yn hanfodol i ddeall nid yn unig ddatblygiad tirweddau Cymru, ond hefyd ei hanesion, ei diwylliannau a’i hunaniaethau.

Cafodd ystadau effeithiau pellgyrhaeddol ar dirweddau Cymru, trwy gyfrwng eu plastai a’u ffermydd, caeau, coetiroedd, coed, parciau, gerddi, mwyngloddiau, chwareli a phorthladdoedd. Cynhyrchwyd cofnodion helaeth yn ymwneud â pherchnogaeth, caffaeliad, etifeddiaeth a rheoli’r tir, yn ogystal â’r ystod eang o weithgareddau a phobl oedd yn gysylltiedig â’r ystadau. Mae’r archifau hyn yn rhan bwysig o ddaliadau archifol y genedl ac yn ffynhonnell doreithiog o dystiolaeth mewn perthynas â lleoedd, tirweddau a nodweddion unigol, yn aml yn ymestyn dros gannoedd o flynyddoedd. Mae gwneud cysylltiadau rhwng yr archifau hyn a’r ‘lleoedd ar lawr gwlad’ y maent yn ymwneud â hwy yn rhan ganolog o’r project.

Bydd yr ymchwil yn canolbwyntio ar ardal yng ngogledd-ddwyrain Cymru a oedd yn llawn ystadau tirfeddiannol a phlastai. Roedd plwyfi hynafol yr Wyddgrug, Llanferres, Llandegla a Llanarmon-yn-iâl, sy’n pontio Sir Ddinbych a Sir y Fflint, yn cynnwys nifer o ystadau dylanwadol gan gynnwys Bodidris, Colomendy, Gelligynan, Gwysaney, Hersedd, Coed-llai, Nercwys, Rhual, Pentrehobyn, Plas Onn, Plas Teg a Thŵr. Ymgymerir â’r rhan fwyaf o’r ymchwil yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth ac Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru (Swyddfa Gofnodion Sir Ddinbych yn Rhuthun a Swyddfa Gofnodion Sir y Fflint ym Mhenarlâg) sy’n cynnwys archifau helaeth yn ymwneud â’r ystadau hyn a’u teuluoedd cysylltiedig.

Bydd yr ymchwil i’r ystadau hyn yn seiliedig ar greu System Gwybodaeth Ddaearyddol ar-lein a fydd yn caniatáu i wybodaeth hanesyddol sy’n deillio o’r cofnodion gael ei digideiddio a’i mapio’n uniongyrchol i’r lleoliad y mae’n ymwneud ag ef. Bydd y cynnyrch terfynol yn ‘fap dwfn’ a fydd yn ymgorffori’r holl gofnodion ac yn galluogi i wybodaeth o wahanol archifau gael ei gweld ar unwaith ac ar y cyd. Trwy glicio botwm bydd modd gweld a symud drwy gofnod llawn o hanes y dirwedd a’i nodweddion unigol ar ffurf haenau o gofnodion ar draws y cyfnod ôl-ganoloesol.

Mae gan y fethodoleg hon botensial hirdymor cyffrous i’n dealltwriaeth o hanes ein tirweddau, amgylcheddau adeiledig a chymunedau a bydd yn borth i ddeunydd newydd sy’n ymwneud â hanes yr ystadau hyn, eu trigolion a lleoliadau cysylltiedig. Bydd hefyd yn gyfle i gynnig gwell mynediad at yr archifau drwy alluogi eu trefnu a’u gweld yn ofodol yn ôl union leoliad.

Wrth drafod y dyfarniad grant dywedodd Dr Shaun Evans o Brifysgol Bangor:

‘‘Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn bodoli er mwyn gwella’r ddealltwriaeth o swyddogaeth ystadau tirfeddiannol yn hanes, diwylliannau a thirweddau Cymru. Roedd eu heffeithiau a’u dylanwadau yn aml yn doreithiog. Rydym wedi cydnabod o’r cychwyn fod ymchwil i’r hanes hwn yn dibynnu ar bartneriaeth a chydweithredu, ac rwy’n falch iawn o fod yn gweithio gyda thîm mor rhagorol o gydweithwyr o bob rhan o’r sectorau archifau, amgylchedd hanesyddol, treftadaeth ddiwylliannol ac academaidd yng Nghymru i ddatblygu’r project cyffrous hwn. Mae’r ardal yng ngogledd-ddwyrain Cymru yr ydym yn canolbwyntio arni yn codi cynifer o gwestiynau diddorol; ac rwy’n gobeithio y bydd ein project yn gwneud cyfraniad hirdymor i’r ffordd y byddwn yn deall ac yn dadansoddi hanes a chymeriad lleoedd ledled Cymru a thu hwnt. Diolch diffuant i Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau am gefnogi’r project hwn.’’

Ychwanegodd Dr Julie Mathias o Brifysgol Aberystwyth:

‘‘Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o’r project Mapio Dwfn a fydd nid yn unig yn rhoi dealltwriaeth newydd i ni o esblygiad tirweddau yng ngogledd-ddwyrain Cymru a bywyd yno yn yr oes fodern gynnar, ond a fydd hefyd yn gyfle i roi prawf ar fethodoleg ymchwil arloesol a’i datblygu.

Dywedodd Christopher Catling, Ysgrifennydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru:

‘‘Bydd y project arloesol hwn yn ein galluogi i ddangos union leoliadau lleoedd nad ydynt bellach yn ymddangos ar fapiau modern ac felly gweld yn fanylach nag erioed o’r blaen sut mae tirwedd Cymru wedi newid dros y canrifoedd. Bydd hefyd yn cynnig mynediad i unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes lleol i gofnodion ystadau yn eu holl gyfoeth a chymhlethdod.’’

Bydd y project yn dechrau ym mis Medi 2020 ac yn cael ei gynnal dros ddwy flynedd.

Tîm y project:

  • Shaun Evans, Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, Prifysgol Bangor
  • Julie Mathias, Astudiaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth
  • Gary Robinson, Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor
  • Scott Lloyd, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
  • Jon Dollery, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Partneriaid Project:

  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru (swyddfeydd cofnodion sir Ddinbych a sir y Fflint)
Bydd y project yn cynnwys nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus yn y rhanbarth ac yn cydweithio’n agos â rhanddeiliaid lleol.