Bwrdd Ymgynghorol

Corff allanol yw'r Bwrdd Ymgynghorol sy'n cynnwys arbenigwyr ac aelodau o'r gymuned sy'n rhannu diddordeb mewn datblygu Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn endid deallusol egnïol sy'n gallu gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymdeithas a diwylliant Cymru.  Mae'r Bwrdd yn cynnwys grŵp o unigolion y mae eu harbenigedd a'u sgiliau yn cyd-fynd â'n diddordebau - gan gynnwys dealltwriaeth hanesyddol a chyfoes o ystadau a phlastai, archifau, materion gwledig a threftadaeth ddiwylliannol Cymru. 

Rôl y Bwrdd yw trafod a chynghori ynghylch ein datblygiad tymor hir a chynnig syniadau a chyngor ar faterion sy'n ymwneud â'n proffil cyhoeddus, cysylltiadau rhanddeiliaid, hunaniaeth ddeallusol a strategaethau cyllido.  Mae'r Bwrdd yn cwrdd tua dwywaith y flwyddyn, gyda'r aelodau'n gweithredu fel llysgenhadon i'r ganolfan yn eu meysydd dylanwad.

Yr Athro Robin Grove-White (Cadeirydd)

Cadeirir y Bwrdd Ymgynghorol gan Yr Athro Robin Grove-White, perchennog ystad y Brynddu ar Ynys Môn.  Mae Robin wedi treulio ei yrfa yn ymwneud â meysydd ymchwil a pholisi, yn cynnwys fel Cyfarwyddwr y Council for the Protection of Rural England, Cadeirydd Greenpeace UK a Chyd-gyfarwyddwr yr Interdisciplinary Centre for the Study of Environmental Change ym Mhrifysgol Lancaster, lle daeth yn Athro yn yr Amgylchedd a Chymdeithas.   Cafodd radd PhD o Brifysgol Bangor yn 2012 am thesis ar hanes modern cynnar ystad Plas Coch ar Ynys Môn.   yn 2018, dyfarnwyd Cymrodoriaeth Er Anrhydedd iddo gan Brifysgol Bangor am wasanaethau i'r gymuned.  Mae'n Llywydd Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn. 

Dr Rhian Davies

Yn gyn-fyfyriwr o brifysgolion Bangor ac Aberystwyth, a Choleg yr Iesu, Rhydychen, mae Rhian Davies yn hanesydd cerdd sydd wedi bod yn Gyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gregynog er 2006.  Wedi'i hysbrydoli gan etifeddiaeth ddiwylliannol gyfoethog Gregynog yn sir enedigol Rhian yn Nhrefaldwyn, mae'r Ŵyl bellach wedi'i sefydlu'n gadarn fel un o'r prif ddigwyddiadau diwylliannol yn y Deyrnas Unedig.  Mae Rhian yn eiriolwr blaenllaw dros dreftadaeth gerddorol Cymru, a thrwy gydol ei gyrfa, mae wedi gweithio i hyrwyddo diwylliant Cymru yn rhyngwladol, tra hefyd yn arddangos doniau byd-eang yng Nghymru.  Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Er Anrhydedd i Rhian gan Brifysgol Bangor yn 2019 am wasanaethau i gerddoriaeth.

Yr Athro Terence Dooley

Mae Terry yn arbenigo mewn hanes cymdeithasol a gwleidyddol Iwerddon yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif, yn enwedig hanes plastai Iwerddon a dosbarth y tirfeddianwyr.  Yn 2001 cynhyrchodd fonograff arloesol ar Decline of the big house in Ireland, a arweiniodd yn uniongyrchol at sefydlu'r Centre for the Study of Historic Irish Houses and Estates (CSHIHE) ym Mhrifysgol Maynooth o dan gyfarwyddiaeth Terry.  Mae'r ganolfan ymchwil hon, sy'n gweithio ar draws meysydd cyhoeddus a phreifat, ac mewn cydweithrediad â'r byd academaidd, archifau a threftadaeth ddiwylliannol, wedi trawsnewid dealltwriaeth academaidd a chyhoeddus o hanes plastai ac ystadau yn Iwerddon a'r modd y maent yn ymwneud â nhw.  Mae llwyddiannau CSHIHE yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol, ac ar lawer ystyr, maent yn darparu’r model a’r ysbrydoliaeth ar gyfer datblygu Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru.  Maent yn un o'n partneriaid academaidd allweddol ac mae swydd Terry ar y Bwrdd yn cryfhau cysylltiadau cydweithredol rhwng y canolfannau yng Nghymru ac Iwerddon.  

Dr Rajkumari W. Jones

Yn Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Bangor, mae Raj wedi gwneud cyfraniad mawr i Brifysgol Bangor, y gymuned leol ac i brojectau bywyd gwyllt a chadwraeth ers iddi symud i Ynys Môn ym 1997.  Hyfforddodd Raj i fod yn ffisegydd, ac mae ganddi gyhoeddiadau a diddordeb ers amser maith mewn hanes gwyddoniaeth a thechnoleg.  Cynorthwyodd i sefydlu'r Grŵp Hanes Ffiseg yn y Sefydliad Ffiseg, gwasanaethodd fel ymddiriedolwr Museum of Science and Industry Manceinion ac roedd yn ysgrifennydd Cymdeithas Lenyddol ac Athronyddol Manceinion.  Er 1997 mae hi wedi neilltuo ei hamser a'i hymdrechion i'w brwdfrydedd mawr mewn bywyd: cadwraeth, yn enwedig y wiwer goch frodorol ar Ynys Môn.  Noddodd Ŵyl Hanes Bangor yn 2019.  

Syr David T.R. Lewis

Ganwyd David yn Hong Kong ac mae'n ŵyr i ffermwr defaid o Sir Gaerfyrddin.  Darllenodd Gyfreitheg yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, a mwynhaodd yrfa ddisglair fel cyfreithiwr gyda Norton Rose, gan gyflawni swydd Cadeirydd ac Uwch Bartner rhwng 1997 a 2003.  Yn 2006 cafodd ei ethol i swydd Siryf Dinas Llundain ac yn 2007 daeth yn 680fed Arglwydd Faer y Ddinas.  Yn 2009 cafodd ei urddo'n farchog i gydnabod ei wasanaethau i'r proffesiwn cyfreithiol ac i Ddinas Llundain.  Dros y blynyddoedd diwethaf, ar ôl symud yn ôl i Sir Gaerfyrddin, mae David wedi neilltuo amser sylweddol i ymchwilio a chynhyrchu cyfres o gyfrolau ar hanes teuluoedd bonheddig, ystadau a'u cymunedau cysylltiedig yn ne orllewin Cymru.  Mae ganddo ddau DCL er Anrhydedd (Dinas a Chymru) ac mae'n Gymrawd er Anrhydedd Coleg yr Iesu Rhydychen, Caerdydd, Ysgol Guildhall, a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.  Ar 1 Mawrth 2008 dyfarnwyd anrhydedd Dewi Sant iddo gan Brif Weinidog Cymru.

Mr Thomas Lloyd

Daw Tom o Ddyffryn Tywi yn Sir Gaerfyrddin.  Ar ôl darllen y Clasuron a'r Gyfraith yng Nghaergrawnt bu'n ymarfer fel cyfreithiwr yn Llundain cyn dychwelyd i Gymru i neilltuo ei yrfa i adeiladau hanesyddol a threftadaeth Gymreig.  Yn 1986 cyhoeddodd The Lost Houses of Wales, a arweiniodd at ei benodi i Gyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru, y bu’n Gadeirydd arno am ddeng mlynedd wedi hynny.  Mae hefyd wedi gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Bwrdd Croeso Cymru, gan hyrwyddo treftadaeth fel elfen o dwristiaeth yng Nghymru, fel Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Adeiladau mewn Perygl ac fel Comisiynydd RCAHMW.  Er 2011 mae wedi gwasanaethu fel Herodr Arbennig Arfau Cymru ac yn ddiweddar fe'i penodwyd yn Llywydd Cymdeithas Hanes Sir Gaerfyrddin. 

Syr George Meyrick

Mae George yn gyfreithiwr amgylcheddol sy'n rheoli busnes a buddiannau tirfeddiannol ystâd hynafol Bodorgan ei deulu ar Ynys Môn.  Mae hyn yn cynnwys portffolio amrywiol o fentrau preswyl, masnachol ac amaethyddol.  Mae'n cefnogi dulliau arloesol o reoli ystadau, gan gyfuno ei ddiddordeb dwfn mewn cadwraeth a'r amgylchedd.  Yn 2017 penodwyd George yn Ganghellor newydd Prifysgol Bangor, gan olynu’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas fel y 12fed unigolyn i fod yn y swydd. 

Sheila O'Neal (ex officio)

Yn ei swydd fel Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu ym Mhrifysgol Bangor, mae Sheila wedi chwarae rhan annatod o ran ein sefydlu a'n twf fel canolfan ymchwil.  Mae cam datblygu cychwynnol Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru wedi'i gefnogi gan gyllid dyngarol.  Mae'r Swyddfa Ddatblygu yn cefnogi'r Sefydliad mewn materion sy'n ymwneud â strategaeth ariannu preifat, cysylltiadau allanol, marchnata a gweithrediad y Bwrdd Ymgynghorol. 

Yr Athro Peter Shapely (ex officio)

Fel Pennaeth yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas trwy gydol bodolaeth Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, mae Peter wedi chwarae rhan bwysig wrth oruchwylio ein datblygiad yn endid academaidd sydd wedi'i integreiddio'n llawn i swyddogaethau ymchwil, effaith a dysgu'r Ysgol a'r Brifysgol. 

Mr Michael Tree

Ganwyd a magwyd Michael yn Sir Aberteifi a Sir Gaerfyrddin, a chymhwysodd fel asiant tir yn y Coleg Amaethyddol Brenhinol, Cirencester, cyn gweithio mewn practis preifat, ac yn ddiweddarach, i Ystâd y Goron fel Rheolwr Asedau a Chynghorydd Cadwraeth.  Fe wnaeth ei frwdfrydedd dros dreftadaeth bensaernïol Cymru ei ysbrydoli i achub a gwarchod adeiladau adfeiliedig Trevor Hall (Llangollen), Hendre House (Llanrwst) a, chan weithio gydag eraill, Plas Kynaston (Rhiwabon).  Mae wedi cyhoeddi gweithiau ar dai Cymru sydd mewn perygl, a'i broject presennol yw cadwraeth neuadd o'r unfed ganrif ar bymtheg ar ffin Powys/ Swydd Amwythig.  Yn y gorffennol mae wedi cadeirio Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru a Chymdeithas Tai Hanesyddol yng Nghymru, yn ogystal â gwasanaethu fel Ymddiriedolwr y Grŵp Sioraidd ac aelod o Gyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru. 

Mr Einion Wyn Thomas

Roedd Einion yn bennaeth Archifau Prifysgol Bangor rhwng 2002-2015 lle roedd ganddo gyfrifoldeb am warchod a hyrwyddo'r Archifau, gan gynnwys y casgliadau unigryw o bapurau ystadau. Cyn ymuno â'r Brifysgol roedd yn bennaeth y Gwasanaeth Archifau ar Ynys Môn, ac yn ddiweddarach yn ei sir enedigol, Sir Feirionnydd.  Cyn iddo ymddeol, cyd-sefydlodd Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru fel canolfan i ryddhau potensial ymchwil casgliadau ystadau'r Brifysgol.  Mae gan Einion ddiddordebau ymchwil sy'n canolbwyntio ar hanes cefn gwlad Cymru, gan gynnwys hanes potsio

Dr Helen Williams-Ellis

Gweithiodd Helen fel cynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu, gan oruchwylio rhaglenni a oedd yn canolbwyntio ar bynciau a materion Cymreig, cyn ymgymryd â phroject doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor ar fywyd a delwedd y foneddiges fodern gynnar o Gymru, Catrin o Berain.  Cyfunodd yr ymchwil hon ddiddordebau Helen mewn diwylliannau gweledol a llenyddol Cymreig.  Mae Helen hefyd yn rhedeg busnes bwthyn gwyliau hunanarlwyo ar ystâd Glasfryn yn Sir Gaernarfon.