Ein Partneriaid

Mae cydweithredu'n rhan annatod o'n hunaniaeth fel sefydliad, ac mae'n sail i'n hymagwedd at ymchwil, ein cyswllt cyhoeddus a'n hymdrechion i wneud cyfraniadau cadarnhaol at gymdeithas a diwylliant.

Ers ein sefydlu buom yn ceisio meithrin cysylltiadau â phartneriaid academaidd eraill yng Nghymru a thu hwnt, a chydag amrywiol sefydliadau ac unigolion sy'n gweithredu yn y sectorau archifau, treftadaeth ddiwylliannol, yr amgylchedd hanesyddol, materion gwledig a thwristiaeth.

Mae nifer o'r cysylltiadau hynny'n hanfodol i'n llwyddiant at y dyfodol.  Maent yn dibynnu ar ddeialog reolaidd, datblygu cyd-ddealltwriaeth a rhannu amcanion.  Mae llawer o'n hymchwil yn dibynnu ar waith gwych yr archifdai a'r sefydliadau treftadaeth wrth iddynt warchod a threfnu casgliadau er mwyn eu cynnig i'w dadansoddi.  Cafodd ein datblygiad hwb hefyd trwy gysylltiadau clos â pherchnogion a gwarcheidwaid plastai ac ystadau Cymru.  Mae gallu cyfnewid gwybodaeth, dealltwriaeth a safbwyntiau â rhanddeiliaid allanol yn aml yn allweddol i gynllunio, datblygu a darparu ein hymchwil.  Mae partneriaethau'n ein cynorthwyo i ddatblygu proffil a gweithgareddau ledled Cymru, ac mae'r cysylltiadau hynny'n aml yn cynnig sianelau inni rannu ein hymchwil a'n canfyddiadau â chynulleidfaoedd newydd ac ehangach. 

Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru'n rhan o rwydwaith rhyngwladol ehangach o fentrau ymchwil a threftadol sy'n canolbwyntio ar arwyddocâd hanesyddol y plastai a'r ystadau.  Bu dulliau a chyflawniadau'r Centre for the Study of Irish Country Houses and Estates, yr Yorkshire Country House Partnership a'r Centre for Scotland’s Land Futures yn ysbrydoliaeth ac yn  gyfleoedd parhaus i gydweithredu'n rhyngwladol.  Rydym hefyd yn falch o fod yn aelod o ENCOUNTER | The European Network for Country House and Estate Research

Mae'r rhestrau isod yn rhoi syniad o rai o'r partneriaid a'r rhanddeiliaid allweddol sydd gennym mewn gwahanol sectorau.  Maent wedi cyfrannu at ein hymchwil, wedi cynnig gwybodaeth a safbwyntiau pwysig ar ein gwaith, neu wedi ysbrydoli ein datblygiad.  

Partneriaid Prifysgol Bangor:

Canolfannau ymchwil, projectau a rhwydweithiau:

Archifau:

Cyrff treftadol:

Cymdeithasau hanesyddol: