Ein Digwyddiadau

Digwyddiadau ac Chysylltiadau

Bu’r cyswllt â’r cyhoedd a’r gymuned yn rhan annatod o waith Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru (ISWE) o’r cychwyn cyntaf. Yn gefn i’r rhyngweithio parhaus mae’r argyhoeddiad y dylid gwahodd pobl a chymunedau Cymru, a ninnau’n ganolfan ymchwil yng Nghymru, i chwarae rhan yn ein gwaith a’n gweithgareddau ac elwa ohonynt.

Rydym wedi ymrwymo i gynnig cyfleoedd i rannu ein hymchwil ac annog cyfranogiad cyhoeddus gweithredol. Mae i’r ymchwil a gynhyrchwn lawer o ddefnyddau a chynulleidfaoedd y tu hwnt i’r byd academaidd. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid yn y sectorau treftadol diwylliannol, yr amgylchedd hanesyddol, archifau, materion gwledig a thwristiaeth i wireddu’r potensial sydd. Rydym hefyd yn cydnabod bod yna elfennau lleol i’n gwaith sy’n ymwneud â llefydd penodol. Mae hynny’n aml yn cyd-daro â diddordeb cyhoeddus mawr yn hanes teulu, hanes lleol a hanes Cymru, ac awydd pobl i ddeall treftadaeth eu cartrefi a’u cymunedau. Rydym yn cydnabod y storfeydd sylweddol o wybodaeth ac arbenigedd, sy’n gysylltiedig â’n diddordebau, sydd i’w cael mewn cymunedau lleol. Bu hynny’n sail i’n hymdrechion i ddatblygu perthynas gref â chymdeithasau hanesyddol a grwpiau treftadaeth, sy’n chwarae rhan hollbwysig wrth ymchwilio, rhannu a hyrwyddo gwybodaeth am orffennol Cymru.

Trwy ein projectau, ein partneriaethau, ein digwyddiadau a’r cyfryngau cymdeithasol roeddem yn falch iawn inni ddenu nifer fawr o gefnogwyr a dilynwyr cyhoeddus o bob cwr o Gymru a thu hwnt. Mae llawer o’r unigolion hynny’n cefnogi ein gwaith fel Cyfeillion Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru.

I gael gwybodaeth am y digwyddiadau sydd i ddod gweler y calendr ar ein gwefan neu tanysgrifiwch i’n rhestr bostio am hysbysiadau rheolaidd.

Cyfres y Seminarau Ymchwil⁠

O’r cychwyn cyntaf buom yn cynnal rhaglen o seminarau ymchwil gyda’r nos ym Mhrifysgol Bangor, a rhoi llwyfan i academyddion a gweithwyr proffesiynol o faes treftadaeth wneud cyflwyniadau ar themâu a phynciau sy’n ymwneud â’n diddordebau. Bu amrywiaeth o bynciau gan gynnwys chwareli llechi, achau canoloesol ac arian teuluol a rheoli ystadau. Mae’n braf iawn cael cyfle i arddangos ymchwil arloesol academyddion ar ddechrau eu gyrfa. Bu’r seminarau’n hynod boblogaidd ac mae nifer dda’n bresennol bob amser, yn aml yn denu pobl newydd i Brifysgol Bangor am y tro cyntaf.

Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru hefyd yn cyd-gynnal Darlith Flynyddol Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor yn gyson.

Cynhadledd Flynyddol

Rydym yn cymryd ein rôl fel canolfan ymchwil genedlaethol i Gymru gyfan o ddifrif. Bob blwyddyn rydym yn cynnal cynhadledd neu symposiwm mewn rhanbarth gwahanol o Gymru, ac yn canolbwyntio ar ddylanwad ac arwyddocâd y plastai a’r ystadau’n lleol. Yn aml, cynhelir y digwyddiadau hynny ar y cyd â chymdeithas hanes sirol ac fe’u cynhelir yn rheolaidd mewn plastai. Dyma rai o’r digwyddiadau a fu:

  • 2020 – Yr ystâd diriog yn ne orllewin Cymru
    (Cynhaliwyd gan Gymdeithas Hynafiaethwyr Sir Gaerfyrddin ar Gampws y Drindod Dewi Sant, Sir Gaerfyrddin)
  • 2019 – ‘Cyfoeth o olion o’r oesoedd a fu’
    (Cynhaliwyd yn Neuadd Gregynog, Sir Drefaldwyn, ar y cyd â Chlwb Powysland)
  • 2018 – ‘Cylchoedd Dylanwad’: Effaith ystadau ar hanes, diwylliant a thirweddau Môn
    (Cynhaliwyd ym Mhlas Cadnant, ar y cyd â Chymdeithas Hynafiaethwyr Ynys Môn ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd)
  • 2017 – ‘Cyfiawnder a Llawenydd’: Ystadau Sir Frycheiniog o Safbwynt y Landlord a’r Tenant
    (Cynhaliwyd ym Mhenpont, ar y cyd â Chymdeithas Brycheiniog)
  • ⁠2017 – Plastai a’u hystadau yng Ngheredigion
    (Cynhaliwyd gan Fforwm Hanes Lleol Ceredigion yn Llwyncelyn, Sir Aberteifi)
  • 2016 – Ailystyried uchelwyr gogledd ddwyrain Cymru
    (Cynhaliwyd yn Neuadd, Sir y Fflint, mewn cydweithrediad â Chymdeithas Hanes Sir y Fflint a Fforwm Treftadaeth Gogledd Ddwyrain Cymru)
  • 2015 – ‘Sgweieriaid De Cymru’
    (Cynhaliwyd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ar y cyd â Chymdeithas Hynafiaethwyr Sir Gaerfyrddin)
  • 2014 – ‘Bonheddwyr Mawr o’r Bala’ Ysgol ddydd ar Ystadau Tiriog Penllyn
    (Cynhaliwyd yng Nglan Llyn, Sir Feirionnydd)

Arddangosfeydd

  • 2019 – Elizabeth Morgan o’r Henblas (Amgueddfa Storiel, Bangor)
  • 2018–19 – Tu Hwnt i’r Chwarel | Beyond the Quarry(Prifysgol Bangor a Llyfrgell Bethesda)
  • 2018 – Llawysgrifau Mostyn | # Mostyn100 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth)

Cynadleddau a Symposia

Mae gennym gynhadledd flynyddol, ac mae nifer o sefydliadau eraill yn bartneriaid â ni er mwyn cynnal symposia a digwyddiadau cyhoeddus eraill. Mae’r rheiny’n cynnwys:

2019 – Darllen, Ysgrifennu, a Chasglu: Llyfrau a Llawysgrifau yng Nghymru, 1450–1850
(Cynhaliwyd yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu)

  • 2019 – Lansio llyfr: J. Gwilym Owen a Peter Foden, The Penrhyn Entail
    (Cynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor)
  • 2018 – Patrymau Patriarchaidd? Swyddogaethau a phrofiadau merched ar ystadau tiriog Cymru
    (Cynhaliwyd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar y cyd ag Archif Menywod Cymru)
  • 2018 – Symposiwm Llawysgrifau Mostyn
    (Cynhaliwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
  • 2018 – Rheoli Coetiroedd yng Nghymru: Y Gorffennol, Y Presennol, Y Dyfodol; Treftadaeth, Rheolaeth a Chynaliadwyedd
    (Cynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor, ar y cyd â Chymdeithas Myfyrwyr Coedwigaeth Bangor a Woodland Heritage)
  • 2018 – Digwyddiadau a gweithgareddau sy’n gysylltiedig â Phroject Penrhyn: Tu Hwnt i’r Chwarel | Beyond the Quarry
    (Cynhaliwyd mewn lleoliadau a safleoedd ledled Dyffryn Ogwen)
  • 2017 – ‘Mesur y Meysydd’ – Carto Cymru 2017: Symposiwm Mapiau Cymru
    (Cynhaliwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ar y cyd â RCAHMW)
  • 2017 – Lansio llyfr: Bettina Harden, The Most Glorious Prospect.
    (Cynhaliwyd ym Mhlas Glyn y Weddw)
  • 2017 – Peter Lord: Portreadu Pobl Môn
    (Cynhaliwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, ar y cyd â Chymdeithas Hynafiaethwyr Ynys Môn ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd)
  • 2016 – Lansio llyfr: Philip Nanney Williams, Nannau: A Rich Tapestry of Welsh History
    (Cynhaliwyd yn Neuadd Cors y Gedol)