Ein logo

Yr aradr a’r plas

Mae ein harwyddlun yn cyfuno dwy elfen sy’n ganolog i flaenoriaethau ein hymchwil ac yn bwysig er mwyn deall hanes yr ystâd diriog yng Nghymru.

The plough

Am ganrifoedd lawer bu’r offeryn hynod hwn yn elfen hanfodol ar ystadau Cymru. Dyma’r peiriant sylfaenol a oedd yn cysylltu dyn â’r tir ac roedd yn gyfystyr â gofalu am y dirwedd a’i meithrin i dyfu cnydau. Yn yr oesoedd canol defnyddid delweddau amaethyddol yn helaeth yn y canu mawl Cymraeg, a’r noddwyr yn cael eu canmol yn gyson am hwsmonaeth dda o’r tir a darparu cynhaliaeth i’r gymdogaeth gyfagos. Parhaodd yr aradr i wneud cyfraniad enfawr i ffyniant economaidd yr ystadau ymhell i’r ugeinfed ganrif. Roeddem o’r farn ei bod yn addas bod yr aradr yn rhan ganolog o’n brand: mae’n cynrychioli’r ffaith nad oedd ystâd yn ymwneud â diddordebau, gweithgareddau a dylanwad tirfeddianwyr yn unig, roedd hefyd yn ymwneud â bywydau a phrofiadau miloedd o unigolion a oedd yn byw ac yn gweithio. ar y tir.

The plas

Yn ystod yr oesoedd canol hwyr a’r cyfnod wedi hynny, roedd y plas neu dai mawr gwledig Cymru’n nodwedd bwysig o’r dirwedd ym mhob rhan o Gymru. Nhw oedd canolfannau grym – canolfannau llywodraeth, diwylliant a gwleidyddiaeth – safent yng nghanol ystadau tiriog Cymru, preswylfeydd y bonedd, y sgweieriaeth ac uchelwyr Cymru. Roeddent yn adeileddau ac yn ddatganiadau pensaernïol o bwys, ac yn aml byddent yn tra-arglwyddiaethu dros y tirweddau o’u cwmpas. Mae llawer o’r adeiladau hyn yn dal yn eiddo i’r teuluoedd a fu’n byw ynddynt ers cenedlaethau; mae eraill yng ngofal sefydliadau fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol; ond cafodd gormod o lawer eu dymchwel neu maent wedi mynd â’u pen iddynt yn ofnadwy.

Mae’r plas sydd ar ein logo wedi ei seilio ar un o’r tai hynny a gafodd ei ddymchwel: ⁠Ynysmaengwyn yn Nhywyn, Meirionnydd. Cafodd y tŷ brics neilltuol hardd yma ei ailadeiladu yn 1758 ar safle a fu’n chwarae rhan bwysig yn y gymdogaeth am ganrifoedd. Yn yr oesoedd canol, ac ymhell ar ôl hynny, roedd y preswylwyr yn noddwyr brwd i’r beirdd ac, er gwaethaf sawl methiant i gael aer gwrywaidd, bu’r teuluoedd Wynn a Corbett – yn arbennig John Corbett (1817–1901) – yn parhau i gyfrannu at weithgareddau’r ardal gyfagos o’r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen. Rywbryd ar ôl 1951 rhoddwyd yr ystâd i’r Cyngor lleol, a fethodd â chynnal a chadw’r adeilad. Defnyddid y tŷ i hyfforddi milwyr a dynion tân nes iddo gael ei ddymchwel yn y diwedd yn 1965. Cedwir casgliadau sy’n ymwneud ag ystâd Ynysmaengwyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a changen Archifau Meirionydd o Archifau Gwynedd.

Rydym yn credu bod plastai Cymru’n rhan eithriadol bwysig o’n treftadaeth genedlaethol ac y gallant chwarae rhan allweddol yn amlygu hanes amrywiol y cymdogaethau lle safant. ⁠Trwy ymchwil, cyd-drafod a chydweithio rydym yn benderfynol o ddatgloi’r potensial hwnnw.