Archifau a Chasgliadau

Mae maint ac amrywiaeth y dystiolaeth hanesyddol a all gefnogi ac ysbrydoli ymchwil i hanes ystadau Cymru yn sylweddol, ac mae’n cynnwys archifau a chofnodion, llawysgrifau a thestunau printiedig, tirweddau, yr amgylchedd adeiledig ac amrywiaeth o ddiwylliant gweledol, materol a pherfformiadol. Mae ein projectau’n tueddu i fod yn seiliedig ar archifau a chasgliadau treftadaeth ddiwylliannol a gafodd eu creu, eu casglu neu eu cadw gan deuluoedd ac ystadau, a’r cymunedau a’r gweithgareddau oedd yn gysylltiedig â hwy.

Archifau Ystadau

Mae archifau ystadau yn arbennig o bwysig i ddatblygiad ein gwaith. Casgliad o gofnodion a gynhyrchwyd i gofnodi a hwyluso caffael, etifeddu a rheoli tir ydynt, ac yn aml maent yn cynnwys amrywiaeth o gofnodion eraill yn ymwneud â gweithrediad y plasty a’r ystad a diddordebau, gweithgareddau a gyrfaoedd eu perchnogion.
Gall cwmpas cronolegol, daearyddol a phynciol y casgliadau hyn fod yn hynod eang ac amrywiol, a chynnwys amrywiaeth o gofnodion sy’n dyddio o’r cyfnod canoloesol hyd heddiw, mewn amrywiaeth o ieithoedd ac yn aml yn ymwneud â sawl lleoliad. Er eu bod yn rhannu nodweddion cyffredin, mae archif pob ystad yn wahanol, ac mae eu cymeriad a’u cyfansoddiad yn dibynnu ar hunaniaeth y teuluoedd, yr ystadau, yr ardaloedd a’r cymunedau a oedd yn sylfaen i’w creadigaeth a’u cadwraeth.

Dyma rai o’r mathau mwyaf cyffredin o gofnodion:

  • Gweithredoedd eiddo
  • Arolygon, prisiadau, llechresi a manylion
  • Mapiau a chynlluniau
  • Rhenti a phrydlesi
  • Llyfrau cyfrifon a derbynebau
  • Ewyllysiau a chytundebau priodas;
  • Cofnodion maenoraidd, degymau a chau tiroedd;
  • Cofnodion yn ymwneud â gwaith diwydiannol, ffyrdd, rheilffyrdd a mwynau
  • Papurau personol yn cynnwys gohebiaeth, cyfnodolion a dyddiaduron
  • Dogfennau’n ymwneud â llywodraeth, gweinyddiaeth a gwleidyddiaeth leol;
  • Papurau achyddol, yn cynnwys siartiau achau
  • Papurau cyfreithiol

Megis dechrau deall y corpws enfawr hwn o dystiolaeth ydym i raddau helaeth: mae’r potensial i wneud ymchwil yn anhygoel.

Mae mwyafrif yr archifau sy’n ymwneud ag ystadau yng Nghymru ar gadw yn archifau sirol a swyddfeydd cofnodion ledled Cymru, ac maent ar gael i’r cyhoedd eu gweld at ddibenion ymchwil. Mae gan yr holl archifau a swyddfeydd cofnodion hyn gatalogau ar-lein eu hunain ac adnoddau chwilio, er y gellir chwilio a phori llawer o’r casgliadau trwy’r Archives Hub. Mae Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor yn cynnwys corpws rhyngwladol arwyddocaol o archifau ystadau sy’n ymwneud ag ystadau tir ledled gogledd Cymru. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru hefyd yn cadw casgliad pwysig o archifau ystadau Cymru y gellir chwilio ynddynt trwy Archifau a Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae ychydig o archifau ystadau Cymru yn parhau i fod yn nwylo’r teulu neu’r ystad a’u cynhyrchodd. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i gofnodion ystadau’r ugeinfed ganrif. Mae rhai o’r teuluoedd a’r ystadau hyn yn aelodau o’r Historic Houses Archivist Group. Mae hefyd yn beth cyffredin dod o hyd i gofnodion ystad yng nghasgliadau cyfreithwyr. Mae archifau ystadau eraill yng Nghymru mewn cadwrfeydd y tu hwnt i Gymru.

Ymchwil yn seiliedig ar gasgliadau

Yn ogystal â’r wybodaeth a ddarperir gan gofnodion ystadau, ceir nifer o archifau eraill sy’n cyfrannu at ein hymchwil. Maent yn cynnwys cofnodion profiant, papurau’r wladwriaeth, cofnodion llysoedd cyfraith Cymru a Lloegr, mapiau degwm, dyfarniadau cau tiroedd a chofnodion maenoraidd.

Cafodd ystadau effeithiau sylweddol hefyd ar dirwedd ac amgylchedd adeiledig Cymru. Yn aml, roedd dylanwad pensaernïol ystad yn ymledu i ffermydd a bythynnod, porthdai a thai ciperiaid, bythynnod, pentrefi a threfi, eglwysi a chapeli, pontydd a melinau, ffyrdd, waliau a phob math o weithfeydd diwydiannol. Yn yr un modd, roedd eu dylanwad i’w weld ar y dirwedd hefyd yng nghynllun a threfniant parciau, gerddi, coetiroedd, caeau, coed, cyrsiau dŵr, waliau a gwrychoedd. Mae’r nodweddion hyn yn sylfaen bwysig i ymchwil. Disgrifir llawer o’r rhain yn Coflein: catalog ar-lein o archaeoleg, adeiladau, treftadaeth ddiwydiannol a morwrol yng Nghymru ac yn Archwilio: cofnod amgylchedd hanesyddol Cymru. Mae’r grŵp Darganfod Hen Dai Cymreig wedi cyhoeddi adroddiadau manwl ar nifer o adeiladau brodorol a godwyd cyn 1700 yng ngogledd Cymru. Mae Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol CBHC yn adnodd ar-lein pwysig sy’n cynnwys miloedd o enwau lleoedd a gasglwyd o gofnodion hanesyddol. Mae Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru yn brif adnodd am wybodaeth am y parciau a’r gerddi hanesyddol sy’n gysylltiedig â phlastai Cymru.

Mae plastai Cymru yn ffynhonnell a thestun arall i’n hymchwil. Er i lawer ohonynt gael eu dinistrio yn ystod yr ugeinfed ganrif, mae eraill wedi goroesi fel safleoedd treftadaeth pwysig, cartrefi teuluol ac atyniadau i ymwelwyr yn nhirwedd Cymru. Mae llawer o blastai Cymru sydd mewn perchnogaeth breifat yn gysylltiedig â Historic Houses; mae eraill yn derbyn gofal gan sefydliadau fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Landmark Trust a Cadw. P’un a ydynt yn dal mewn dwylo preifat neu yng ngofal cyrff fel Amgueddfa Genedlaethol Cymru, mae’r diwylliant gweledol, materol a thestunol sy’n gysylltiedig â phlastai yn cynnig cyfle gwych i ymchwil rhyngddisgyblaethol, er gwaethaf y cyfyngiadau a achoswyd gan y drefn o werthu a chwalu casgliadau o blastai dros y ganrif ddiwethaf. Mae rhai o’r portreadau a’r gwaith celf a arferai fod yn gysylltiedig â phlastai gwledig Cymru ar gael i’w gweld ar-lein trwy Art UK. Un o nodweddion mwyaf nodedig bywyd diwylliannol ym mhlastai Cymru oedd nawdd a pherfformio canu mawl. Mae llawer o’r cerddi hyn wedi goroesi mewn llawysgrifau a gellir eu chwilio ar-lein gan ddefnyddio Y Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau (MALDWYN), Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Rydym hefyd yn cydnabod arwyddocâd a gwerth y wybodaeth, yr atgofion a’r casgliadau mewn cymunedau lleol ledled Cymru.

Rhestrir adnoddau ar-lein eraill ar y dudalen adnoddau ar ein gwefan.