Medi 2021

SuLlMaMeIGSa
1234
567891011
12131415161718
19202122232425
2627282930

Digwyddiad ar-lein i ddathlu un o'r bobl dduon gyntaf yng Ngogledd Gorllewin Cymru

Amser:
Dydd Sadwrn 18 Medi 2021, 10:00–12:00
Cyswllt:
www.racecouncilcymru.org.uk

Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn falch o weithio mewn partneriaeth â Race Council Cymru i drefnu digwyddiad arbennig ar-lein fel rhan o Hanes Pobl Dduom Cymru 365.

Amcan y rhaglen BHC365 yw cyflwyno digwyddiadau addysgiadol a chreadigol trwy gydol y flwyddyn, yn dathlu ac yn cydnabod y cyfraniadau a wnaed gan bobl o dras Affricanaidd ac Affricanaidd-Caribïaidd i hanes a diwylliant lleol, cenedlaethol ac yn fyd-eang. Gwahoddir pawb, waeth beth fo’u hethnigrwydd neu eu lliw, i gymryd rhan yn y digwyddiadau.

Ddydd Sadwrn, 18 Medi byddwn yn cynnal digwyddiad sy'n canolbwyntio ar John Ystumllyn (m.1786), un o'r bobl dduon gyntaf a gofnodwyd yng ngogledd Cymru.

Mae gan John gysylltiad agos ag ystad Ystumllyn yn Criccieth. Gwyddom gymaint am ei fywyd diolch i gofiant a gyhoeddwyd gan Robert Isaac Jones (Alltud Eifion, 1813-1905) ym 1888. Awgrymir bod aelod o deulu Wynn o Ystumllyn wedi herwgipio John yn Affrica neu India'r Gorllewin a'i ddwyn yn ôl i'r ystad yng Nghriccieth, lle cafodd John ei fedyddio a bu’n gweithio fel garddwr ymhen amser. Yn 1768 priododd John â Margaret Gruffydd, un o'r morynion yn Ystumllyn, a chawsant saith o blant. Gweithiodd John ar ystad Maesyneuadd hefyd ac yn y pen draw, rhoddwyd bwthyn to gwellt iddo yn Nanhyran gan Ellis Wynn i gydnabod ei wasanaeth i deulu Ystumllyn. Bu farw John ym 1786 a chladdwyd ef ym mynwent Ynyscynhaearn, ac mae englyn yn arysgrifenedig ar ei garreg fedd. Mae ei fywgraffiad cyhoeddedig yn awgrymu llawer am ei fywyd fel person du yng ngogledd orllewin Cymru, yr ymatebion i'w bresenoldeb yn y gymuned a'i brofiadau yng nghymdeithas Cymru.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys cymysgedd o sgyrsiau addysgiadol, ymatebion creadigol a thrafodaethau grŵp ar waddol John Ystumllyn fel person du yn byw yng ngogledd Cymru.

Dyma rai o'r siaradwyr sydd wedi eu cadarnhau:

Zehra Zaidi, arbenigwr datblygu rhyngwladol sydd â diddordeb yn John Ystumllyn

Natalie Jones, athrawes Gymraeg a chyflwynydd S4C o ddisgyniad Jamaicaidd, symudodd ei theulu i fyw yn Pwllheli pan oedd hi'n 9 oed

Audrey West, artist gweledol yn wreiddiol o Jamaica, a symudodd o Lundain i Gymru yn 2017 i ddilyn ei diddordebau creadigol

Dr Gareth Jones Evans, Darlithydd mewn Astudiaethau Crefyddol ym Mhrifysgol Bangor, y mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys y Beibl, caethwasiaeth a’r diwylliant print crefyddol yng Nghymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg

Mae croeso cynnes i chi ymuno â'r digwyddiad ar-lein hwn fydd yn rhad ac am ddim ddydd Sadwrn, 18 Medi 2021, 10am tan hanner dydd.

Cynhelir y digwyddiad ar Zoom.

https://zoom.us/j/95557661008?pwd=VUFrSSs1aXlPcnVOQVNOMUVvcDc5Zz09

Cysylltwch â www.racecouncilcymru.org.uk | marian@racecouncilcymru.org.uk i gael rhagor o fanylion.

Noddir y digwyddiad yn garedig gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

I ddysgu mwy am John Ystumllyn gweler erthygl Ffion Mair Jones a gyhoeddwyd yn y Geiriadur Bywgraffiadau Cymru: https://biography.wales/article/s12-YSTU-JOH-1786

DATHLU UN O’R BOBL DDUON GYNTAF YNG NGOGLEDD GORLLEWIN CYMRU