Mostyn

Mostyn yn Hanes Cymru

Mae teulu Mostyn yn un o'r sefydliadau tirfeddiannol hynaf yng ngogledd Cymru.  Mae'r teulu yn fwyaf enwog am eu rhan yn y ddwy eisteddfod arloesol yng Nghaerwys  yn 1523 a 1567, a'u cyfraniad tuag at ddatblygiad Llandudno fel tref gwyliau glan môr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Maent hefyd wedi dylanwadu'n fawr ar hanes, diwylliannau a thirweddau'r rhanbarth ers y cyfnod canoloesol.

Fel y dangoswyd gan ymchwil y diweddar Athro A. D. Carr, mae papurau ystad Mostyn yn un o'r ffynonellau tystiolaeth gorau ar gyfer olrhain datblygiad ystadau tirfeddianwyr yng Nghymru'r Oesoedd Canol.  Trwy briodi, prynu ac etifeddu, erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg roedd y Mostyniaid wedi ennill tiroedd sylweddol ar draws gogledd Cymru: ym Mostyn yn Sir y Fflint, Gloddaith yn Sir Gaernarfon, Pengwern yn Sir Ddinbych a Threcastell a Thregarnedd ar Ynys Môn. Roedd y grym tirfeddiannol hwn yn gysylltiedig â threftadaeth hynafol Gymreig eithriadol ac yn llwyfan i'r Mostyniaid ddatblygu fel un o'r prif deuluoedd bonedd yng Nghymru.

Mae'r cofnodion a'r casgliadau a gasglwyd ganddynt yn rhoi cyfleoedd i  ddadansoddi nifer fawr o themâu a materion, o nawdd barddol, llawysgrifau Cymraeg a llyfrgelloedd plastai, i gloddio glo, amaethyddiaeth a datblygu trefol.  Mae goroesiad dau brif gartref ac ystadau'r teulu yn Mostyn a Gloddaith hefyd yn ysbrydoliaeth bwysig i astudio diwylliant gweledol a materol. 

Gallwch ddysgu mwy am agweddau ar hanes y teulu trwy archwilio'r llinell amser hon ar wefan Ystadau Mostyn.

Project Mostyn

Lansiwyd Prosiect Mostyn yn 2009 fel menter gan y Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar (IMEMS) gyda'r bwriad o gynyddu ymwybyddiaeth academaidd a chyhoeddus ac ennyn diddordeb yn y tystiolaeth hanesyddol helaeth a gynhyrchwyd gan y teulu Mostyn a'r ystâd neu'n gysylltiedig â nhw.

Roedd y gwaith cynnar ar y project yn cynnwys tri phroject PhD a ariannwyd, gan gynnwys project Ein Cyfarwyddwr [link to Our Director page], sef nifer o gynlluniau ymwneud â'r cyhoedd a'r gymuned a Grant Ymwneud â'r Diwylliant AHRC yn canolbwyntio ar dreftadaeth Llandudno.

Ers 2015 mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru wedi cymryd cyfrifoldeb am ddatblygiad y project, gan gynnal y cysylltiad cydweithio cryf â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor ac Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru.  Mae Ystadau Mostyn a'r teulu Mostyn yn parhau i fod yn gefnogwyr pwysig i'n rhaglen ymchwil.

Erbyn hyn mae'r project yn cynnwys amrywiaeth o gynlluniau ymchwil a threftadaeth yn seiliedig ar gasgliadau rhyfeddol Mostyn.

# Mostyn100 - Llawysgrifau Mostyn

Yn 2018 gwnaethom sefydlu partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Ystadau Mostyn i guradu rhaglen ac arddangosfa yn canolbwyntio ar y casgliad pwysig o Lawysgrifau Mostyn a ddaeth i feddiant Llyfrgell Genedlaethol Cymru ym 1918. 

Roedd yr arddangosfa hon a'r rhaglen fywiog o ddigwyddiadau a gweithgareddau cyhoeddus cysylltiedig yn gyfle i arddangos cyfoeth deunydd Mostyn, tynnu sylw at yr ymchwil sydd eisoes wedi'i wneud ac ysgogi ysgolheictod pellach.

Roedd yr arddangosfa'n cynnwys rhai o'r llawysgrifau pwysicaf yn y casgliad, ynghyd â detholiad o eitemau o Neuadd Mostyn  - gan gynnwys yr arian dlws enwog: y delyn arian sy'n gysylltiedig ag eisteddfodau Caerwys . 

Arweiniodd y rhaglen at symposiwm arbennig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ym mis Tachwedd 2018.

Newyddlenni Mostyn

Rhwydweithiau Newyddion: Ail-ystyried Newyddlenni a Gohebiaeth Llawysgrifau Mostyn (c.1672-1740)

Diolch i'r grant a roddwyd gan Gronfa Marc Fitch yn 2018 rydym wedi gallu digideiddio, ymchwilio a sicrhau bod casgliad eithriadol o dair mil o lythyrau o'r ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif a gedwir yn y llyfrgell yn Plas Mostyn yn Sir y Fflint ar gael.

Llythyrau wedi eu hysgrifennu â llaw yw'r rhain a anfonwyd at Syr Thomas Mostyn (1651-92) a Syr Roger Mostyn (1673-1739) oddi wrth rwydwaith helaeth o gysylltiadau a gohebwyr rhwng c.1672-92 a c.1721-40.  Dyma un o'r casgliadau mwyaf cynhwysfawr o lythyrau sydd wedi goroesi o Gymru'r ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif.  Yn ystod y cyfnod hwn roedd Mostyniaid Mostyn a Gloddaith yn un o'r teuluoedd bonedd amlycaf yng Nghymru.  Mae'r llythyrau'n ymwneud â phob agwedd o'u diddordebau a'u gweithgareddau, o faterion seneddol, dadleuon crefyddol a swyddogaethau, i gasglu llyfrau, strategaethau priodi, addysg, hynafiaethau a straeon lleol.  Yn eu mysg hefyd mae casgliad heb ei ail o newyddlenni mewn llawysgrif benodol i unigolion, a anfonwyd o Lundain i Blas Gloddaith, sy'n rhoi sylw manwl i bob agwedd ar newyddion cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae'r llythyrau wedi'u rhwymo mewn cyfrolau sy'n rhan o'r llyfrgell enwog ym  Mostyn.  Diolch i gydweithrediad yr Arglwydd Mostyn, mae'r holl lythyrau bellach wedi'u digideiddio'n llawn oddi ar y safle gan Genus ac erbyn hyn mae'r ffeiliau  ym Mhrifysgol Rhydychen yn aros i gael eu huwchlwytho i'r wefan Llythyrau Modern Cynnar Ar-lein (EMLO).

Roedd y grant wedi galluogi Dr Mary Chadwick (Prifysgol Huddersfield yn awr) a Dr Sarah Ward Clavier (UWE Bryste) i ymchwilio a thrawsgrifio'r llythyrau yn rhannol.  Roedd y dasg hon hefyd, yn bwysig iawn, yn cynnwys echdynnu a pharatoi màs o fetadata a fydd yn golygu y gall y gymuned ysgolheigaidd ryngwladol chwilio, dadansoddi ac ymholi'n llawn i bob llythyr.  Mae tîm y project yn mynd ar ôl y cyfleoedd ymchwil sylweddol sy'n deillio o ddigideiddio'r llythyrau.

Roeddem hefyd yn gallu arddangos y project mewn cynhadledd bwysig a drefnwyd gennym yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu ym mis Ebrill 2019 ar y pwnc 'Darllen, Ysgrifennu, a Chasglu: Llyfrau a Llawysgrifau yng Nghymru, 1450-1850 '.

Bywyd a dylanwad yr Arglwyddes Augusta Mostyn (1830-1912)

Yn 2019 roeddem yn falch iawn o ddechrau project ymchwil a chatalogio newydd, mewn partneriaeth ag Ystadau Mostyn ac Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor.  Bydd hyn yn golygu y caiff papurau Augusta Mostyn  eu catalogio a'u hymchwilio am y tro cyntaf.

Yn 1855 priododd Henrietta Augusta Nevill â Thomas Edward Mostyn Lloyd-Mostyn (1830-1851), sef mab ac etifedd yr 2il Farwn Mostyn. Roedd hi'n wraig weddw erbyn mis Mai 1861 yn dilyn marwolaeth ei gŵr o'r diciâu, gan gael ei gadael i fagu ei dau fab ifanc a chysegru ei bywyd i warchod etifeddiaeth gyfreithlon ei mab hynaf, Llewellyn Nevill Vaughan Lloyd-Mostyn (1856-1929), a ddaeth yn 3ydd Barwn Mostyn ar farwolaeth ei dad-cu ym 1884.  Roedd ei etifeddiaeth lwyddiannus yn dibynnu ar ddatrys dyledion difrifol y teulu. Er gwaethaf datblygiad parhaus Llandudno, roedd graddfa a chymhlethdod dyledion y teulu yn mynd yn broblem ddifrifol. Roedd angen gwerthu tiroedd er mwyn lleihau'r diffyg ond dadleuodd y Fonesig Augusta yn gryf y byddai gwerthu Llandudno yn niweidiol i fuddiannau ei mab, gan ei ystyried yn 'brif gynheiliad y teulu'. Chwaraeodd ran ganolog yn mynd â'r teulu yn ôl i gyflwr o sefydlogrwydd ariannol.

Ym 1879 dychwelodd i fyw yn Neuadd Gloddaith a oedd newydd ei adnewyddu, a bu yno tan ei marwolaeth ym 1912. Gwnaeth gyfraniad aruthrol yn ystod ei bywyd i ddatblygiad Llandudno a'r ardal. Cyllidodd y gwaith o adeiladu Ysgol Bodafon ym 1872, ac ariannodd adeiladu Cylchdro'r Gogarth ym 1877 ac ym 1898 adeiladodd Eglwys yr Holl Saint (Deganwy) i anrhydeddu ei rhieni, gan gyfrannu hefyd at adeiladu Eglwys Sant Paul (Craig-y- Don). Goruchwyliodd sefydlu Oriel Gelf Oriel Mostyn (agorwyd yn 1902), gan nodi y dylai rhoi lle arddangos amlwg i weithiau artistiaid benywaidd.

Dros y tair blynedd nesaf bydd Dr Dinah Evans yn ymchwilio dwy gist o ohebiaeth, cyfrifon, dyddiaduron, derbynebau a phapurau cyfreithiol sydd newydd eu cyflwyno i Archifau Bangor o Neuadd Mostyn.  Fel rhan o'r project bydd y papurau'n cael eu trefnu a'u catalogio am y tro cyntaf o dan oruchwyliaeth Elen Wyn Simpson, Archifydd y Brifysgol. 

Mae'r project yn adeiladu ar ddwy elfen o waith Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru; yn gyntaf arddangosfa o lawysgrifau Mostyn a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 2018; a’r gynhadledd a gynhaliwyd yng Ngerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru mewn cydweithrediad ag Archif Merched Cymru yn yr un flwyddyn, ar bwnc bywydau a phrofiadau menywod ar ystadau yng Nghymru. 

Rhagwelir y bydd yr ymchwil a'r catalog yn rhyddhau llawer o wybodaeth newydd am fywyd a dylanwad un o'r menywod mwyaf rhyfeddol yn hanes gogledd Cymru. 

Gyda llawer o ddiolch i'r Arglwydd Mostyn am ei gefnogaeth barhaus.  Rydym yn dymuno pob dymuniad da i Dinah gyda'r project pwysig hwn.

Maes Mynan: Llys, plasty ac ystâd

Mae Maes Mynan, sydd wedi'i leoli ar y ffin rhwng Sir Ddinbych a Sir y Fflint ger tref Caerwys, yn un o'r safleoedd mwyaf anhysbys yn hanes Cymru.  Ers haf 2019 rydym wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Sir y Fflint ac  Acorn Leisure yn ymchwilio i hanes y safle.  Prynwyd rhan o'r hen ystâd, gyda golygfeydd godidog o Foel y Parc, yn ddiweddar ac mae'n cael ei droi'n barc gwyliau.  Mae perchnogion y safle eisiau sicrhau bod hanes a diwylliant Maes Mynan yn arwain sut caiff y parc ei ddatblygu a'i hyrwyddo, gyda'r bwriad o roi profiad unigryw, dilys a diddorol i ymwelwyr o'r rhan hon o Gymru.  Agorwyd y parc yn ffurfiol gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ym mis Medi 2019, lle cyflwynwyd copi iddo o adroddiad Dr Shaun Evans ar hanes y safle.  Roedd Maes Mynan bron yn sicr yn llys tywysogion Gwynedd a thrafodwyd y dynodiad hwn, ynghyd ag agweddau eraill ar dreftadaeth gyfoethog y safle, yn ystod y lansiad.

Bydd Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn parhau i weithio gyda Chyngor Sir y Fflint, Acorn Leisure a phartneriaid eraill i archwilio cyfleoedd i gysylltu'r hanes, treftadaeth, twristiaeth a datblygiad economaidd gwledig.