Alex Ioannou yn derbyn ysgoloriaeth Drapers' yng Ngholeg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes

Mae Prifysgol Bangor yn falch o gyhoeddi enwau'r rhai fydd yn derbyn Ysgoloriaethau Drapers' Company eleni.

Ers dros gan mlynedd, mae cwmni Drapers, un o gwmnïau hanesyddol lifrai Dinas Llundain sydd erbyn hyn sefydliad dyngarol, wedi cael cysylltiad â Phrifysgol Bangor, yn wreiddiol drwy grantiau sylweddol tuag at adeiladu rhai o brif adeiladau’r Brifysgol gan gynnwys y llyfrgell, labordai gwyddonol a’r adran beirianneg electroneg. 

Bydd tri ymchwilydd talentog yn derbyn yr ysgoloriaeth eleni: Alex Ioannou, Harvey Plows a Conor Buchanan.  

Yn y llun: Alex Ioannou

Meddai Martina Feilzer, Deon Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes, "Mae'n bleser cyhoeddi Alex Ioannou fel derbynydd Ysgoloriaeth Draper's Company eleni. Bydd project Alex, Reframing the Welsh landscape: The role of collective subjectivity in a time which calls for landscape change yn archwilio sut y mae sawl elfen o broblemau amgylcheddol a chynaliadwyedd sy’n ein hwynebu yn gysylltiedig â thir a thirwedd: sut y mae’n cael ei ddefnyddio, ei reoli, ei addasu a’i weld. Bydd y project doethuriaeth ryngddisgyblaethol hwn yn dod ag ysgolheigion o wahanol ysgolion o fewn Prifysgol Bangor at ei gilydd, gyda’r gallu i wneud cyfraniad unigryw at sut y gallwn fynd i’r afael â rhai o heriau mwyaf brys y byd."

Mae Alex Ioannou yn bensaer o Gyprus/Prydeinig, sydd â gradd meistr mewn Pensaernïaeth Tirlun o Brifysgol Greenwich ac sydd â phrofiad o weithio o fewn tirluniau treftadaeth a'r sector amgylcheddol yng Nghymru. Gan dyfu fyny ar ynys rhanedig Cyprus, mae ei angerdd dros dirlun wedi'i wreiddio mewn ceisio deall sut y mae unigolion yn perthyn ac yn bodoli o fewn yr amgylchiadau y maent yn ei hetifeddu neu'u creu. Caiff project Alex ei oruchwylio gan Dr Norman Dandy, Cyfarwyddwr Canolfan Defnydd Tir Cynaliadwy Syr William Roberts, SWRC, http://swrc.bangor.ac.uk/ Ysgol Gwyddorau Naturiol a Dr Shaun Evans, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ISWE, http://iswe.bangor.ac.uk/index.php.cy yn Ysgol Hanes, y Gyfraith a’r Gwyddorau Cymdeithasol. 

Meddai Alex, "Yn dilyn fy ngradd Meistr, gweithiais yn y Parciau Brenhinol yn Llundain. Roedd fy ymchwil yn cynnwys y Chestnut Avenue, sy'n filltir o hyd yn Bushy Park, gweddillion y Grand Ascent a Parterre Banks yn Greenwich Park. Maen nhw'n lefydd anhygoel, ond fel llawer o dirluniau treftadaeth, maen nhw'n destament i 'fframiau' dominyddol sydd wedi gorchymyn sut yr ydym wedi defnyddio, rheoli a chanfod y tirluniau hyn ers canrifoedd: y grymoedd o gystadleuaeth gorfodaethol, twf cyfunol ac economi wedi'i seilio mewn ecsbloetiaeth greodd pwer a chyfoeth mwynhawyd gan William II a Charles II, a gafodd ei sianelu i mewn i siap y tirluniau hyn.

"Y tu hwnt i fy nrws ffrynt presennol mae llwybr rheilffordd Chwarel Dinorwig. Rwy'n cael fy atgoffa yn ddyddiol am y grym a'r cyfoeth oedd yn gorchymyn sut oedd tirluniau Cymru yn cael ei siapio a'u hail-siapio ers ddechrau'r chwyldro diwydiannol.

"Mae Cymru yn darganfod ei hun ar drobwynt yn ei hanes. Mae'r argyfyngau hinsawdd a natur o ganlyniad i'r grymoedd hynny sydd wedi siapio sut yr ydym wedi defnyddio, rheoli a gweld y tirluniau ble rydym yn byw. Mae'r ffyrdd gorchmynol hynny o 'fframio' ac felly sut yr ydym yn perthyn i'n tirluniau yn dod o dan mwy o sgriwtini nag erioed o'r blaen. Wrth weithio i gyhoeddi'r State of Natural Resources Report 2020, dysgais am y bioamrywiaeth enfawr yn Nghymru, a gwerth y tirlun yma yng Nghymru. Ond roedd rhaid i mi hefyd ysgrifennu am sut oedd Cymru ddim ar hyn o bryd yn cwrdd â'r pedwar nod y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn mesur yn eu herbyn.

"Nod y project ymchwil hwn yw cysylltu trafodaethau presennol am newid tirlun gyda'r gorffennol a chynnig 'fframau' gwahanol i'r rhai sydd wedi gyrru'r drafodaeth ers blynyddoedd lawer. Fy ngobaith yw helpu Cymru i feithrin perthynas gwahanol gyda'i thir."

Mae dau fyfyriwr ymchwil ôl-radd yn y Sefydliad Dyfodol Niwclear hefyd wedi derbyn ysgoloriaethau Drapers’ Company, wedi eu cyd-noddi gan Ganolfan EPSRC (Engineering and Physical Sciences Research Council)ar gyfer Hyfforddiant Doethuriaeth mewn Dyfodol Ynni Niwclear, consortiwm sy’n cynnwys Prifysgol Bangor, Prifysgol Bryste, Prifysgol Caergrawnt, Coleg Imperial Llundain a’r Brifysgol Agored. 

Cafodd y Sefydliad Dyfodol Niwclear ei sefydlu ym Mangor yn 2017 er mwyn cynnig arbenigedd i gefnogi projectau adeiladu niwclear Newydd yn y rhanbarth ac yng ngweddill y DU. Mae gan y grŵp, gafodd ei sefydlu gan Yr Athro Bill Lee FREng, arbenigedd mewn sawl maes gan gynnwys, deunyddiau niwclear, thermol-hydroleg a niwtroneg adweithyddion, arloesi cylchred tanwydd niwclear, meddygaeth niwclear, ymasiad a rheoleiddio niwclear. Ers 2017, mae wedi cydweithio â diwydiant a labordai cenedlaethol drwy’r byd er mwyn dod ag arbenigedd angenrheidiol i Ogledd Cymru, gan sicrhau bod yn bosib i’r genhedlaeth nesaf o beriannwyr a gwyddonwyr niwclear sy’n gweithio ar brojectau gael eu hyfforddi'n lleol, gan gynnig gwaith cynaliadwy yn yr ardal. Er mwyn sicrhau hyn, mae cyfleusterau o’r radd flaenaf wedi eu rhoi mewn lle, gan gynnig cyfle i bartneriaethau ffynnu ac I gynnig y profiadau gorau i fyfyrwyr gael swyddi mewn diwydiant sy’n symud yn gyflym. 

Bydd Harvey Plows yn archwilio arbrofi dynameg hylif gyda datblygiad offeryniaeth gysylltiedig yn y dŵr yn y Cyfleuster Ymchwil Mynediad Agored Thermol-Hydroligion (THOR) sy’n cael ei gomisiynu ym Mharc Gwyddoniaeth Menai, ac yn cael ei oruwchwylio gan Dr Marcus Dahlfors, Darlithydd mewn Peirianneg Niwclear yn y Sefydliad Dyfodol Niwclear. 

Bydd Conor Buchanan yn archwilio agweddau o therapi Auger wedi ei dargedu; triniaeth newydd radiotherapiwtig sy’n defnyddio electronau ynni isel i dargedu tiwmorau wrth adael y meinwe iach heb ei gyffwrdd. Bydd y project yn cael ei oruchwylio gan Dr Lee J. Evitts, Darlithydd mewn Meddygaeth Niwclear yn y Sefydliad Dyfodol Niwclear, a’i gyd-oruchwylio gan Dr Eric Aboagye yng Ngholeg Imperial College Llundain. 

Am ragor o wybodaeth ar The Drapers’ Company, ewch i: https://thedrapers.co.uk 

 

Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2021