Gweithdy Stiward Tir

Ar ddydd Sadwrn 24 Hydref, cynhaliwyd weithdy ym Mhrifysgol Dundee ar hanes y stiward tir. Trefnwyd ‘The Land Agent in transnational context: an interdisciplinary context’ gan Dr Annie Tindley (Centre for Scotland’s Land Futures), Dr Ciaran Reilly (Centre for the Study of Historic Irish Houses and Estates) a Dr Lowri Ann Rees (Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru).

Adnabyddir fel y steward tir yn Iwerddon a Chymru, a’r ffactor yn yr Alban, tynnwyd sylw at rôl a ddyletswyddau’r dynion drwy ystod eang o bapurau hynod o ddiddorol. Ystyriwyd astudiaethau achos o stiwardiad neu ystadau penodol, dylanwad ffactorau allanol megis terfysgoedd a gwrthryfeloedd, i ddyfodiad y rheilffyrdd a stiwardiaeth tir adre a thramor yn y Caribî. Cafwyd drafodaethau bywiog yn dilyn pob un o’r tri panel, a gwelwyd cymhariaethau rhwng yr Alban, Iwerddon a Chymru. Fe wnaeth Dr Lowri Ann Rees a Mr Einion Thomas gynrychioli ISWE a chyflwyno papurau ar ei prosiectau ymchwil.

Rydym yn gobeithio bydd cyhoeddiad yn dilyn y gweithdy hwn, a bydd digwyddiad tebyg yn cael ei gynnal eto yn y dyfodol agos, er mwyn parhau gyda’r trafodaethau ac atgyfnerthu’r cysylltiadau a gwnaethpwyd.

 

Dyddiad cyhoeddi: 2 Tachwedd 2015