Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn croesawu symudiadau i ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol Cymru

Bu i Adran 34 Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 sefydlu darpariaethau ar gyfer casglu a chynnal rhestr o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru. Mewn ymateb i hyn, mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru wedi nodi ei fwriad i arwain ar greu mynegai enwau lleoedd, a fydd yn defnyddio deunyddiau gwreiddiol cyn yr ugeinfed ganrif i nodi'r enwau sydd gan, neu a roddir i leoliadau a safleoedd ar draws Cymru.  Bydd y mynegai'n cynnwys gwahanol ffurfiau a sillafiadau o enwau lleoedd dros amser.

Yn ogystal ag adeiladu ar waith arloesol Archif Enwau Lleoedd Melville Richards, a ddelir gan Brifysgol Bangor, bydd y fenter hefyd yn dibynnu'n helaeth ar gronfa eang o ddata enwau lleoedd a gofnodwyd mewn archifau ystadau, yn cynnwys arolygon, mapiau, gweithredoedd a dogfennau rhent.

Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru wedi nodi ei fwriad i gydweithio'n agos â Swyddog Enwau Lleoedd newydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a grwpiau megis Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, i ddatblygu'r adnodd, a fydd yn chwarae rhan sylweddol wrth ddiogelu elfen bwysig o dreftadaeth leol ar draws Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2017