PROJECT DOETHUROL CYNTAF SEFYDLIAD YMCHWIL YSTADAU CYMRU YN CAEL EI GWBLHAU

Ym mis Ionawr 2021 llwyddodd Sadie Jarrett i amddiffyn ei thesis PhD ar hanes teulu Salesbury Rhug a Bachymbyd.  Ariannwyd y project hwn yn hael gan Ystad Rhug a hwn oedd y project doethurol cyntaf i Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ymwneud ag ef.  Yn yr erthygl hon, mae Sadie yn dweud wrthym am ei hymchwil ac am ei chynlluniau ar ôl y PhD. 

Cwblhau'r PhD 

Pan aeth y wlad gyfan dan glo oherwydd y pandemig coronafeirws ym mis Mawrth 2020, roedd gen i chwe mis ar ôl o’m doethuriaeth. Roedd yn arbennig o heriol oherwydd bod yr holl lyfrgelloedd wedi cau, er fy mod i'n ffodus iawn fy mod i wedi cwblhau fy ymchwil archifol fis cyn y cloi. O’r diwedd cyflwynais fy nhraethawd ymchwil ym mis Medi 2020 ac ni allwn fod wedi dod i ben â gwneud hynny heb gefnogaeth fy nheulu a ffrindiau yn ogystal â'm goruchwylwyr, Huw Pryce a Shaun Evans. Bu’r haf yn gyfnod o bori’n ddi-baid mewn siopau llyfrau ail-law ar-lein ac un daith wyllt i Fangor i nôl bag enfawr o lyfrau pan ddechreuodd Llyfrgell y Brifysgol y gwasanaeth clicio a chasglu, y llyfrgell prifysgol gyntaf yng Nghymru i wneud hynny. Rwy’n parhau’n hynod ddiolchgar i’r llyfrgellwyr a’r archifyddion oherwydd mai gyda’u cymorth nhw y llwyddais i gwblhau fy PhD mewn pryd yng nghanol pandemig byd-eang. Roedd y llyfrgellwyr ym Mhrifysgol Bangor yn arbennig o wych. 

Y traethawd ymchwil 

Teitl fy nhraethawd PhD oedd, ‘“Of great kindred and alliance”: The status and identity of the Salesburys of Rhug and Bachymbyd, c.1470-c.1660’. Mae’n archwilio yr hyn oedd yn diffinio ac yn cyfnerthu teulu bonheddig yng Nghymru’r cyfnod modern cynnar, gan ddefnyddio teulu Salesbury Rhug a Bachymbyd fel enghraifft. Maen nhw'n astudiaeth achos arbennig o ddiddorol oherwydd bod eu cyndeidiau wedi cyrraedd gogledd Cymru yn y canol oesoedd fel ymsefydlwyr Seisnig yn un o arglwyddiaethau’r gororau, yn Ninbych, ond daethant yn un o’r teuluoedd bonedd Cymreig. Roedd y teulu Salesbury yn deulu Cambro-Brydeinig a gofleidiodd hunaniaeth Gymreig ac a enillodd statws yn eu cymunedau lleol. Fodd bynnag, roeddent hefyd yn cydnabod gwerth cael pŵer gan wladwriaeth fodern gynnar Prydain, yn enwedig wrth i gyfleoedd ehangu ar ôl y Deddfau Uno (1536–43). 

Uchafbwyntiau 

Ymhlith uchafbwyntiau fy PhD yn sicr mae fy ymweliadau â Boston ar gyfer Colocwiwm Celtaidd Harvard a Los Angeles i ddefnyddio Llyfrgell Huntington. Doeddwn i ddim wedi disgwyl mynd i’r llefydd hynny pan ddechreuais fy PhD ar hanes modern cynnar Cymru!  Roeddwn hefyd wrth fy modd yn ymweld ag Ystad Rhug, a ariannodd fy ymchwil PhD, a chael gweld y fuches bison, a bron i mi gael fy mherswadio i afael mewn twrci!  Mae'n hyfryd gweld tirwedd sydd prin wedi newid ers i'r teulu Salesburys fod yn berchen ar yr ystad, yn ogystal ag adeiladau megis Capel Rhug, a adeiladwyd gan William Salesbury ym 1637. Fe wnes i fwynhau cyflwyno fy ymchwil i grwpiau hanes lleol ledled gogledd Cymru a chwrdd â chynulleidfaoedd a chanddynt gymaint o ddiddordeb. Mae'n rhywbeth rydw i wedi'i golli yn ystod y pandemig ac mae gen i ddiddordeb bob amser clywed gan gymdeithasau a hoffai wybod mwy am y deuluoedd bonedd y cyfnod modern cynnar yng Nghymru. 

Cynlluniau ar ôl y PhD  

Ym mis Hydref 2020, dechreuais ar flwyddyn o gymrodoriaeth ymchwil ôl-ddoethurol yn y Sefydliad Ymchwil Hanesyddol, a ariennir gan y Gymdeithas Hanes Economaidd. Mae wedi bod yn flwyddyn ryfedd oherwydd y pandemig, ond er hynny mae wedi bod yn fraint cael bod yn rhan o'r Sefydliad Ymchwil Hanesyddol. Rwyf wedi canolbwyntio'n bennaf ar ddatblygu fy nhraethawd doethurol yn llyfr. Mae o dan gontract gyda Gwasg Prifysgol Cymru a'r teitl ar hyn o bryd yw 'Power and Identity in Early Modern Wales: The Salesbury Family, 1450–1720’. Bydd y llyfr yn defnyddio fy astudiaeth achos o'r teulu Salesbury i edrych ar y berthynas rhwng Cymreigrwydd, hunaniaeth a phŵer yng nghymdeithas Cymru yn y cyfnod modern cynnar. Bydd yn archwilio sut y gwnaeth boneddigion Cymru lywio eu rôl newidiol yng ngwladwriaeth Prydain yn y cyfnod modern cynnar, a hefyd yn archwilio cyfleoedd newydd yn Ewrop a threfedigaethau’r Iwerydd.  

Ymchwil ar gyfer y llyfr 

Mae fy llyfr yn edrych ar gyfnod sy’n hwy o drigain mlynedd na fy ymchwil PhD ac yn bennaf rwyf wedi bod yn edrych ar y cyfnod diweddarach hwnnw, 1660-1720, yn ystod fy nghymrodoriaeth. Ym mis Mehefin, cefais fynd i’r archifdy am y tro cyntaf ers misoedd lawer a llwyddais i edrych ar achos yn y Siawnsri yn ymwneud â phatriarch olaf y teulu Salesbury, sef Roger Salesbury (m.1719), a’i nithoedd, Elizabeth a Margaret. Roedd arian yn ddyledus gan Roger i'w nithoedd, ond dywedai na allai fforddio eu talu oherwydd bod cynifer o alwadau ariannol ar ei ystad. Rhygnodd yr achos ymlaen am dros ddau ddegawd, nes i Roger farw ac i Elizabeth a Margaret etifeddu ei holl dir. Mae'n enghraifft hynod ddiddorol o berthnasau mewnol y teulu Salesbury ac mae'n dangos fod merched yn teimlo bod modd iddynt amddiffyn eu buddiannau yn y llys. 

Rwyf hefyd wedi bod yn edrych ar incwm ystadau’r teulu Salesbury a beth oedd effaith yr economi newidiol ar y teulu. Trwy hynny, deuthum yn gyfarwydd â thenantiaid y teulu ac rwyf wedi dysgu bod rhai ohonynt yn negydwyr parod a wrthododd dalu rhenti uwch. Fodd bynnag, cynyddodd incwm y teulu Salesbury yn sylweddol rhwng 1600 a 1700 ac roedd yn galluogi'r teulu i fyw bywydau cyfforddus iawn, er nad oeddent mor gyfoethog â llawer o deuluoedd bonedd yn Lloegr. Roedd rhai aelodau o'r teulu’n byw y tu hwnt i'w modd ac felly roedd gan y teulu lefelau uchel o ddyled hefyd, yn enwedig ar droad yr ail ganrif ar bymtheg. Mae wedi bod mor ddiddorol dysgu sut roedd y teulu Salesbury yn rheoli eu cyllid a'r pwysau oedd i gynnal eu ffordd o fyw fel teulu bonedd.   

Y dyfodol 

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi mynychu llawer o ddigwyddiadau ar-lein ledled y Deyrnas Unedig a thramor, gan gynnwys seminarau ymchwil, cynadleddau, lansiadau llyfrau, grwpiau darllen a rhaglenni hyfforddi. Yn Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru rydym hefyd wedi bod yn cadw mewn cysylltiad gyda grwpiau trafod ar-lein misol ac mae wedi bod yn wych parhau i ymgysylltu fel cysylltai ymchwil er anrhydedd. Rwy'n gwerthfawrogi y byddai hyn wedi bod yn anoddach i mi pe bai digwyddiadau wedi bod yn cael eu cynnal yn y cnawd, er fy mod yn siŵr y byddwn wedi llwyddo dod i Fangor bob hyn a hyn! 

Ym mis Hydref, rwy'n dechrau ar swydd newydd gyffrous fel cymrawd datblygu gyrfa yng Ngholeg y Frenhines, Rhydychen. Byddaf yn defnyddio fy nhair blynedd yn Rhydychen i orffen llawysgrif fy llyfr a dechrau ar broject newydd ar weithgarwch trefedigaethol Cymru yn y cyfnod modern cynnar yng Ngogledd America. Mae'n adeiladu ar bennod gysylltiedig yn fy llyfr ac yn canolbwyntio ar gyfraniad Cymru at wladychiaeth Prydain yn y cyfnod modern cynnar. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau fy swydd newydd ac rwy’n croesi fy mysedd y bydd bywyd yn fwy tebyg i normal. 

Mae pawb sy'n gysylltiedig â Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a Phrifysgol Bangor yn llongyfarch Sadie yn gynnes ar lwyddo yn ei PhD ac yn dymuno'r gorau iddi yn y dyfodol wrth iddi barhau i wneud cyfraniadau pwysig at ddeall Hanes Cymru.  

Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2021