Project ymchwil newydd i gwmpasu cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon yn y cyfnod 1650-1930

Mae'r ganolfan Study of Historic Irish Houses and Estates (CSHIHE) ym Mhrifysgol Maynooth a'r Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym Mhrifysgol Bangor wedi dechrau project newydd ar y cyd i nodi cysylltiadau hanesyddol rhwng Cymru ac Iwerddon.

Mae'r ddwy ganolfan yn rhannu'r nod o hyrwyddo ymchwil i ddylanwadau hanesyddol a swyddogaethau cyfoes ystadau tir a phlastai gwledig yn y ddwy wlad.

Fodd bynnag, ychydig iawn o ddatblygiad sydd wedi bod i ymchwil cydsgysylltiedig i’r cysylltiadau hanesyddol rhwng Iwerddon a Chymru ar sail teuluoedd ac ystadau tiriog a'u cylchoedd dylanwad cysylltiedig. Mae'r astudiaeth gwmpasu wedi'i sefydlu i nodi ffocws clir ar gyfer ysgolheictod y dyfodol a allai gydweddu i Gymru ac Iwerddon fel ei gilydd.

Credwn y gall fod potensial sylweddol yma. Amcan yr ymarfer cwmpasu yw nodi pynciau, cwestiynau a chasgliadau o ddiddordeb i Gymru ac Iwerddon a allai ddarparu sylfeini ar gyfer ymchwil cydweithredol.

Mae Dr. Adam N. Coward, sy'n arbenigo yn hanes cymdeithasol a diwylliannol Cymru'r ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, wedi ei benodi’n ymchwilydd i’r project, gan weithio'n agos gyda Dr. Shaun Evans o Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a'r Athro Terence Dooley o CSHIHE.

Rydym yn rhagweld y bydd y project yn darparu fframwaith ar gyfer cydweithredu tymor hir rhwng prifysgolion Bangor a Maynooth, gan arwain at brojectau ymchwil mwy yn ogystal â chyfoethogi'r cysylltiadau diwylliannol a deallusol rhwng y ddwy wlad.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2021