Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ar led

Bu Einion Thomas a Nia Powell yng Nghynhadledd Wanwyn Flynyddol Cymdeithas Hanes Amaethyddiaeth Prydain a gynhaliwyd ym Mangor eleni ar 30 Mawrth – 1 Ebrill, 2015. Bu hyn yn gyfle i gyfarfod  ag ymchwilwyr eraill o Loegr a’r cyfandir sy’n gweithio ar agweddau o hanes ystadau.

Gwahoddwyd Nia Powell i roi’r ddarlith agoriadol gyweirnod  a thraddododd ar ‘Pastoral prosperity and the bankrolling of polite society in early modern Wales’. 

Ar 27 Mawrth, 2015, mynychodd Einion Thomas, Dr. Lowri Rees a Nia Powell gylch trafod rhyngwladol ym Mhrifysgol Dundee lle’r oedd  cynrychiolwyr o ganolfannau yn yr Alban, Gogledd Iwerddon, Iwerddon, Lloegr a Chymru yn bresennol. Yno gyda chynrychiolwyr Bangor yr oedd Stephen Benham, archifydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy’n arbenigo ar gofnodion ystadau, gan nodi’r cyd-weithio agos rhwng ISWE ym Mangor â Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. 

Y mae canolfan debyg i ISWE wedi cael ei sefydlu erbyn hyn i astudio ystadau yn yr Alban rhwng Adran Hanes Prifysgol Dundee a Chanolfan Hanes a Pholisi Amgylcheddol Prifysgol Stirling. Gwnaed hyn yn rhannol o ganlyniad i ddatblygu SYYC/ISWE ym Mangor, a bydd y ganolfan honno’n cael ei lansio ym mis Awst 2105, gan gydweithio gyda Bangor. Yr oedd cylch trafod Mawrth yn Nundee yn dilyn y trefniadau a wnaed yng nghylch trafod Bangor ym mis Tachwedd, a’r brif thema oedd ‘Y Tirwedd Adloniadol (The Recreational Landscape). Traddododd Einion Thomas bapur ymchwil ar, ‘Respectable men? The Welsh poachers’.


Ar Chwefror 6-7, 2015, bu Dr Lowri Rees a Nia Powell chweched Seminar Ymchwil a Pholisi'r Yorkshire Country House Partnership a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Efrog.


Traddododd Dr. Rees bapur yno, fel rhan o banel ar Gymru, ‘Writing the History of Landed Estates and Country Houses in Wales: Myths and Realities’. Olrheiniodd y newidiadau yn y modd y dehonglwyd y berthynas rhwng perchenogion ystadau â’u tenantiaid yng Nghymru, gan gynnig awgrymiadau ar gyfer datblygiadau i’r dyfodol.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2015