Uchel Gomisiynydd Jamaica yn ymweld â Phrifysgol Bangor

Cynhaliodd Prifysgol Bangor ymweliad gan Uchel Gomisiynydd Jamaica yn ddiweddar (15 Awst) yn ystod taith hanesyddolDr Lola Ramocan, Ei Ardderchogrwydd Mr Seth George Ramocan, Elen Wyn Simpson, Archifydd, Dr  Shaun Evans, Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru  (SYYC) a Dr Marian Gwyn Ymchwilydd Cysylltol SYYC yn  astudio dogfennau o gasgliad Papurau Penrhyn.Dr Lola Ramocan, Ei Ardderchogrwydd Mr Seth George Ramocan, Elen Wyn Simpson, Archifydd, Dr Shaun Evans, Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru (SYYC) a Dr Marian Gwyn Ymchwilydd Cysylltol SYYC yn astudio dogfennau o gasgliad Papurau Penrhyn. â Chymru. EA Mr Ramocan yw 13eg Uchel Gomisiynydd (UG) Jamaica i'r DU ers i Jamaica ennill ei annibyniaeth ym 1962 a ef yw'r UG cyntaf i ymweld â Chymru yn swyddogol.

Gan ddechrau yng Nghaerdydd gyda chyfarfod o henoed Cenhedlaeth y Windrush, ymwelodd EA Mr Ramocan â mannau o'r brifddinas sydd â chysylltiadau hanesyddol â Jamaica, cyn teithio ymlaen i'r gogledd i Fangor. Yma, croesawyd yr Uwch Gomisiynydd yn ffurfiol i'r Brifysgol gan yr Is-Ganghellor, yr Athro John G. Hughes ac yna fe’i cyflwynwyd i bapurau Penrhyn-Jamaica'r Brifysgol, cofnodion sydd wedi eu storio a'u casglu fel rhan o Archifau a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol. Mae'r rhain yn cynnwys mapiau a dogfennau sy'n ymwneud â phlanhigfeydd siwgr mawr Ystad Penrhyn yn Jamaica a'i rôl mewn caethwasiaeth yn y Caribî yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif.

Yna, ymwelodd Mr Ramocan â Chastell Penrhyn, cartref hynafol y teulu Pennant, a chafodd daith o amgylch yr adeilad a'r gerddi. Dilynwyd hyn gyda derbyniad dinesig yn Neuadd Penrhyn Cyngor Dinas Bangor, lle cynhaliwyd trafodaethau ar gysylltiadau presennol a rhai’r dyfodol rhwng gogledd Cymru a Jamaica.

Yn dilyn ymweliad yr Uchel Gomisiynydd â’r Brifysgol, meddai’r Is-Ganghellor, Yr Athro John G. Hughes:

“Roedd yn bleser croesawu Ei Ardderchogrwydd Mr Ramocan i'r Brifysgol ac i ddangos iddo ef a'i ddirprwyaeth rai o'r papurau a'r mapiau sydd yma ym meddiant ein Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau. Maent yn gofnodion hanfodol o amser pan oedd gan y rhanbarth hon berthynas gywilyddus â Jamaica – perthynas sydd bellach, yn ffodus, wedi cael ei gwyrdroi tuag at y cadarnhaol.”

Dyddiad cyhoeddi: 15 Awst 2018